Ymgynghoriad

Galw am dystiolaeth ar argymhellion a wnaed gan y Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio'r Senedd

Ymateb i'r ymgynghoriad

Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

Gwahoddodd Pwyllgor Busnes y Senedd safbwyntiau i lywio ei waith o ystyried pedwar argymhelliad a wnaed gan y Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio'r Senedd.

 

Gwnaed yr argymhellion hyn gan y Pwyllgor Diben Arbennig yn ei adroddiad ym mis Mai 2022, Diwygio ein Senedd: Llais cryfach i bobl Cymru, i lywio cyfarwyddiadau polisi ar gyfer Bil Llywodraeth Cymru ar Ddiwygio'r Senedd.

 

Roedd y pedwar argymhelliad y gwahoddodd y Pwyllgor Busnes safbwyntiau arnynt yn ymwneud â:

>>>> 

>>> maint Llywodraeth Cymru mewn Senedd fwy (argymhelliad 4);

>>> nifer y Dirprwy Lywyddion mewn Senedd fwy (argymhelliad 5);

>>> y nifer o Gomisiynwyr y Senedd mewn Senedd fwy (argymhelliad 6);

>>> y canlyniadau pe bai Aelod yn newid eu plaid wleidyddol pan fydd wedi cael ei ethol drwy system rhestr gyfrannol gaeedig (argymhelliad 10).

<<<< 

 

Gofynnodd Llywodraeth Cymru i'r Pwyllgor Busnes ddod â’r gwaith o ystyried yr argymhellion hyn i ben yn ystod mis Tachwedd 2022 er mwyn llywio ei waith o baratoi’r ddeddfwriaeth berthnasol. Felly, y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno safbwyntiau oedd dydd Mawrth 1 Tachwedd 2022. Croesawodd y Pwyllgor safbwyntiau ar y pedwar argymhelliad neu ddim ond rhai ohonynt drwy ei ffurflen ymgynghori ar-lein.

 

Gellir gweld yr ymatebion i'r ymgynghoriad uchod.

 

 

Cyflwyno Tystiolaeth Ysgrifenedig

 

Mae gan y Senedd ddwy iaith swyddogol, sef Cymraeg a Saesneg.

 

Yn unol â Chynllun Ieithoedd Swyddogol y Senedd, mae'r Pwyllgor yn gofyn i ddogfennau neu ymatebion ysgrifenedig i ymgynghoriadau y bwriedir eu cyhoeddi neu eu defnyddio yn nhrafodion y Senedd gael eu cyflwyno yn ddwyieithog. Pan na chaiff dogfennau neu ymatebion ysgrifenedig eu cyflwyno yn ddwyieithog, byddwn yn cyhoeddi yn yr iaith a gyflwynwyd, gan ddweud eu bod wedi dod i law yn yr iaith honno'n unig.

 

Rydym yn disgwyl i sefydliadau eraill weithredu eu safonau neu eu cynlluniau eu hunain a chydymffurfio â'u rhwymedigaethau statudol.

 

Gweler y canllawiau ar gyfer y sawl sy’n cyflwyno tystiolaeth I bwyllgor.

 

Datgelu gwybodaeth

 

Gwnewch yn saff eich bod wedi ystyried polisi’r Senedd o ran datgelu gwybodaeth cyn cyflwyno gwybodaeth i’r Pwyllgor.

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Pwyllgorau
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
CF99 1NA

Email: pwyllgorau@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565