Ymgynghoriad

Gwasanaethau i blant sydd wedi bod mewn gofal: archwilio diwygio radical

Diben yr ymgynghoriad

Cynhaliodd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ymchwiliad i graffu ar gynnydd Llywodraeth Cymru o ran cyflawni ei hymrwymiad yn ei Rhaglen Lywodraethu i 'ystyried cyfleoedd radical i ddiwygio’r gwasanaethau presennol ar gyfer plant sy’n derbyn gofal ac yn gadael gofal'.

 

Nod ein hymchwiliad oedd nodi’r prif flaenoriaethau ar gyfer meysydd polisi lle mae angen newid ac a fyddai'n gwneud y gwahaniaeth mwyaf i fywydau plant a phobl ifanc.

 

Gwnaethom ystyried blaenoriaethau ar gyfer diwygio radical yn y tri cham canlynol o'r system ofal:

>>>> 

>>>Cyn gofal: Lleihau nifer y plant yn y system ofal yn ddiogel

>>>Mewn gofal: Gwasanaethau o safon a chefnogaeth i blant mewn gofal

>>>Ôl-ofal: Cefnogaeth barhaus pan fydd pobl ifanc yn gadael gofal

<<< 

 

Cyfeiriwch at dudalen yr ymchwiliad i gael rhagor o wybodaeth a’r diweddaraf am yr ymchwiliad.

 

Dogfennau ategol

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Email: SeneddChildren@senedd.wales
Ffôn: 0300 200 6565