Ymgynghoriad

Bil Amaethyddiaeth (Cymru)

Diben yr ymgynghoriad

Mae Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig waith craffu Cyfnod 1 ar egwyddorion cyffredinol y Bil Amaethyddiaeth (Cymru) (y Bil). At ddibenion llywio ei waith craffu, gofynnodd y Pwyllgor am sylwadau ynghylch egwyddorion cyffredinol y Bil Amaethyddiaeth (Cymru) a’r angen am ddeddfwriaeth i gyflawni’r bwriad polisi a nodir.

 

Gofynnwyd am ystyried Rhannau unigol o'r Bil wrth ffurfio barn ar y mater hwn:

>>>> 

>>>Rhan 1: Rheoli Tir yn Gynaliadwy

>>>Rhan 2: Cymorth ar gyfer Amaethyddiaeth etc.

>>>Rhan 3: Materion sy’n ymwneud ag amaethyddiaeth a chynhyrchion amaethyddol

>>>Rhan 4: Coedwigaeth

>>>Rhan 5: Bywyd Gwyllt 

>>>Rhan 6: Cyffredinol

>>>Unrhyw rwystrau posibl i weithredu darpariaethau'r Bil, ac a yw'r Bil yn eu hystyried (gan gynnwys Deddf Marchnad Fewnol y DU 2020 ac unrhyw gyfreithiau rhyngwladol);

>>>Priodoldeb y pwerau yn y Bil i Weinidogion Cymru wneud is-ddeddfwriaeth (fel y nodir ym Mhennod 5 o Ran 1 o’r Memorandwm Esboniadol);

>>>Pa un a oes unrhyw ganlyniadau anfwriadol yn deillio o’r Bil; a

>>>Goblygiadau ariannol y Bil (fel y’u nodir yn Rhan 2 o’r Memorandwm Esboniadol).

<<< 

 

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno tystiolaeth i'r ymchwiliad hwn oedd dydd Gwener 11 Tachwedd 2022.

Dogfennau ategol

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Email: SeneddEconomi@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565