Ymgynghoriad

Ymchwiliad i effaith costau cynyddol

Ymateb i'r ymgynghoriad

Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

Mae'r Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol yn pryderu am effaith costau cynyddol ar y sectorau o fewn ei bortffolio. Bydd y Pwyllgor yn cynnal ymchwiliad byr i edrych ar yr effeithiau hyn, a pha gymorth sydd ei angen, cyn iddo wneud argymhellion i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU. Mae gan y Pwyllgor ddiddordeb penodol mewn materion sy'n arbennig neu’n fwy amlwg yn eich sector chi na chymdeithas yn gyffredinol.

 

Hoffai’r Pwyllgor wybod:

>>>> 

>>>Pa effeithiau y mae costau byw cynyddol wedi'u cael ar eich sefydliad a'ch sector hyd yn hyn?

>>>Pa effeithiau ydych chi'n rhagweld y bydd costau cynyddol yn eu cael ar eich sefydliad a'ch sector? I ba raddau y bydd yr effeithiau hyn yn anghildroadwy (e.e. lleoliadau'n cau, yn hytrach nag yn gyfyngiad dros dro yn unig ar weithgareddau)?

>>>Pa ymyriadau yr hoffech eu gweld gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU?

>>>I ba raddau y mae’r effeithiau a ddisgrifiwch yn wahanol ar bobl â nodweddion gwarchodedig a phobl o statws economaidd-gymdeithasol is?

<<< 

 

Mae Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig y Senedd wedi cwblhau ymchwiliad yn ddiweddar i effaith economaidd a gwledig pwysau costau byw. Bwriedir i ymchwiliad y Pwyllgor hwn ategu’r gwaith hwnnw yn ogystal â gwaith a wneir gan bwyllgorau eraill y Senedd.

 

Cyflwyno Tystiolaeth Ysgrifenedig

Mae gan y Senedd ddwy iaith swyddogol, sef Cymraeg a Saesneg.

 

Yn unol â Chynllun Ieithoedd Swyddogol y Senedd, mae'r Pwyllgor yn gofyn i ddogfennau neu ymatebion ysgrifenedig i ymgynghoriadau y bwriedir eu cyhoeddi neu eu defnyddio yn nhrafodion y Senedd gael eu cyflwyno yn ddwyieithog. Pan na chaiff dogfennau neu ymatebion ysgrifenedig eu cyflwyno yn ddwyieithog, byddwn yn cyhoeddi yn yr iaith a gyflwynwyd, gan ddweud eu bod wedi dod i law yn yr iaith honno'n unig.

 

Rydym yn disgwyl i sefydliadau eraill weithredu eu safonau neu eu cynlluniau eu hunain a chydymffurfio â'u rhwymedigaethau statudol.

 

Gweler y canllawiau ar gyfer y sawl sy’n cyflwyno tystiolaeth I bwyllgor.

 

Datgelu gwybodaeth

Gwnewch yn saff eich bod wedi ystyried polisi’r Senedd o ran datgelu gwybodaeth cyn cyflwyno gwybodaeth i’r Pwyllgor.

 

Daeth yr ymgynghoriad i ben ar 15 Medi.2022.

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Email: SeneddCulture@senedd.wales
Ffôn: 0300 200 6565