Ymgynghoriad

Gofyn cwestiwn i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Diben yr ymgynghoriad

Ar 15 Medi 2022, bydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn cynnal sesiwn graffu cyffredinol gyda’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

Byddwn yn trafod pob math o faterion iechyd a gofal cymdeithasol â’r Gweinidog, a hoffem ni gael eich syniadau ar gyfer cwestiynau.

 

Parthed y cwestiynau a gyflwynir

Bydd cwestiynau a ofynnir yn ystod y sesiwn yn rhai sy’n cael eu dewis gan y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ac Ymchwil y Senedd. Ni allwn sicrhau y bydd pob cwestiwn a awgrymir yn cael ei ofyn.

 

Mae’n bosibl y byddwn yn dadansoddi’r cwestiynau a gyflwynir i nodi themâu sy’n dod i’r amlwg, er mwyn llywio’r sesiwn. Mae’n bosibl y bydd y cwestiynau a awgrymir yn cael eu gwneud yn ddienw at y diben hwn.

 

Os dewisir eich cwestiwn

Mae’n bosibl y bydd eich cwestiwn chi, neu gwestiwn cyffredinol ar y materion yr ydych chi ac eraill wedi’u crybwyll, yn cael ei ofyn mewn sesiwn graffu gyffredinol y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol gyda Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Llywodraeth Cymru ar 15 Medi 2022.

 

Os na ddewisir eich cwestiwn

Mae’n bosibl y bydd cwestiynau a gyflwynir yn cael eu defnyddio i lywio busnes y Pwyllgor yn y dyfodol.

 

Sut i rannu eich awgrymiadau

Llenwch ffurflen ar-lein cyn 16:00 ddydd Gwener 26 Awst 2022.

 

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Email: SeneddIechyd@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565