Ymgynghoriad

Bil Bwyd (Cymru) Drafft

Ymateb i'r ymgynghoriad

Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

Ar 18 Gorffennaf 2022, lansiodd Peter Fox AS ymgynghoriad ar y Bil Bwyd (Cymru) drafft, gan wahodd pobl i roi eu barn ynghylch sut y cafodd y gyfraith arfaethedig ei drafftio. Bydd yr ymgynghoriad yn dod i ben ar 16 Medi 2022.

 

Diben y Bil Bwyd (Cymru) drafft yw sefydlu system fwyd mwy cynaliadwy yng Nghymru i wella diogeledd bwyd, gwella llesiant economaidd-gymdeithasol Cymru a chynnig mwy o ddewis i ddefnyddwyr. Yn ogystal, bydd y Bil yn ceisio darparu fframwaith a fydd yn galluogi dull trawslywodraethol sy’n gydlynol, yn gyson ac yn strategol, ar gyfer ymdrin â pholisi ac ymarfer ar bob agwedd ar y system fwyd.

 

Mae'r ymgynghoriad hwn yn ceisio barn ar y Bil Bwyd (Cymru) drafft ac ar yr amcanion polisi y mae'r Bil drafft yn ceisio eu cyflawni.

>>>> 

>>> Dogfen Ymgynghori

>>> Bil Bwyd (Cymru) Drafft

>>> Arolwg ar lein

<<<< 

 

Cyflwyno Tystiolaeth Ysgrifenedig

Mae gan y Senedd ddwy iaith swyddogol, sef Cymraeg a Saesneg.

 

Yn unol â Chynllun Ieithoedd Swyddogol y Senedd, mae'r Pwyllgor yn gofyn i ddogfennau neu ymatebion ysgrifenedig i ymgynghoriadau y bwriedir eu cyhoeddi neu eu defnyddio yn nhrafodion y Senedd gael eu cyflwyno yn ddwyieithog. Pan na chaiff dogfennau neu ymatebion ysgrifenedig eu cyflwyno yn ddwyieithog, byddwn yn cyhoeddi yn yr iaith a gyflwynwyd, gan ddweud eu bod wedi dod i law yn yr iaith honno'n unig.

 

Rydym yn disgwyl i sefydliadau eraill weithredu eu safonau neu eu cynlluniau eu hunain a chydymffurfio â'u rhwymedigaethau statudol.

 

Sut y bydd eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio

Mae'n bosibl y caiff y wybodaeth a ddarperir gennych ei defnyddio gan yr Aelod sy’n gyfrifol am y Bil, staff cymorth yr Aelodau a staff Comisiwn y Senedd, at ddibenion datblygu'r Bil Aelod, hybu'r effaith y bwriedir i'r Bil ei chael, a gwaith craffu dilynol ar y Bil.

 

I gael y manylion llawn, gweler y Nodyn Preifatrwydd ynghylch Biliau Aelod cyn cyflwyno gwybodaeth.

Dogfennau ategol

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Ymgynghoriad - Biliau Aelod
Sened Cymru
Bae Caerdydd
CF99 1SN

Email: BiliauAelod@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565