Ymgynghoriad

Datgarboneiddio tai: datgarboneiddio'r sector tai preifat

Ymateb i'r ymgynghoriad

Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

Mae’r Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith (‘y Pwyllgor’) yn cyflawni darn bach o waith sy’n canolbwyntio ar ddatgarboneiddio'r sector tai preifat (hynny yw, y sector rhentu preifat a’r sector perchen-feddianwyr).

 

Cylch gorchwyl - bydd y Pwyllgor yn trafod:

>>>> 

>>>y dull presennol o ddatgarboneiddio tai yn y sector rhentu preifat a’r sector perchen-feddianwyr yng Nghymru, gan gynnwys effeithiolrwydd rhaglenni presennol a chymorth ar gyfer ôl-osod;

>>>rôl targedau ôl-osod sy’n benodol i’r sector i helpu i ysgogi newid;

>>>y camau y dylai Llywodraeth Cymru eu cymryd i fwrw ymlaen â rhaglen ôl-osod ar gyfer y sectorau hyn yn y tymor byr, y tymor canolig a’r hirdymor;

>>>y prif heriau sy’n gysylltiedig â darparu rhaglen ôl-osod yn y sectorau hyn, gan gynnwys heriau ariannol, ymarferol ac ymddygiadol, a’r camau y mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru (a’i phartneriaid) eu cymryd i’w goresgyn;

>>>sut y gellir taro’r cydbwysedd cywir rhwng dylanwadu/cymell perchnogion tai a landlordiaid yn y sector preifat i ôl-osod eu heiddo a rheoleiddio i godi safonau i ysgogi cynnydd; ac

>>>effeithiolrwydd y camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i geisio dylanwadu ar benderfyniadau ar faterion a gedwir yn ôl i gefnogi’r gwaith o ddatgarboneiddio’r sectorau hyn.

<<< 

 

Gwahoddiad i gyfrannu i'r ymchwiliad

Hoffai’r Pwyllgor eich gwahodd i gyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig i’w gynorthwyo yn ei waith o ystyried yr ymchwiliad. Byddai’n ddefnyddiol pe gallech ddefnyddio’r cylch gorchwyl uchod i lunio eich ymateb.

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno yw dydd Llun 22 Awst 2022.

 

Cyflwyno tystiolaeth

Os ydych am ymateb i ymgynghoriad y Pwyllgor, e-bostiwch gopi electronig o'ch tystiolaeth i SeneddHinsawdd@senedd.cymru

neu anfonwch drwy'r post at:

 

Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith,

Senedd Cymru,

Caerdydd,

CF99 1SN

 

Sut y byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth

Byddwn fel arfer yn cyhoeddi gohebiaeth neu dystiolaeth ysgrifenedig ar ein gwefan. Os ydych wedi ymateb yn bersonol, bydd eich enw'n cael ei gyhoeddi ynghyd â'ch cyfraniad, oni bai eich bod wedi gofyn i'ch cyfraniad fod yn ddienw. Os ydych wedi ymateb mewn rhinwedd broffesiynol, bydd y fersiwn gyhoeddedig yn cynnwys eich enw, teitl/rôl eich swydd os yw'n berthnasol, ac enw eich sefydliad.

 

Cyn derbyn cyfraniadau gan unigolion o dan 13 oed, mae arnom angen awdurdodiad gan riant neu warcheidwad y person ifanc. Gellir darparu hyn ar ffurf neges e-bost gan riant neu warcheidwad y person ifanc. Ni fyddwn yn cyhoeddi enwau unigolion o dan 18 oed ochr yn ochr â'u cyfraniadau.

 

Cyflwyno Tystiolaeth Ysgrifenedig

Mae gan y Senedd ddwy iaith swyddogol, sef Cymraeg a Saesneg.

 

Yn unol â Chynllun Ieithoedd Swyddogol y Senedd, mae'r Pwyllgor yn gofyn i ddogfennau neu ymatebion ysgrifenedig i ymgynghoriadau y bwriedir eu cyhoeddi neu eu defnyddio yn nhrafodion y Senedd gael eu cyflwyno yn ddwyieithog. Pan na chaiff dogfennau neu ymatebion ysgrifenedig eu cyflwyno yn ddwyieithog, byddwn yn cyhoeddi yn yr iaith a gyflwynwyd, gan ddweud eu bod wedi dod i law yn yr iaith honno'n unig.

 

Rydym yn disgwyl i sefydliadau eraill weithredu eu safonau neu eu cynlluniau eu hunain a chydymffurfio â'u rhwymedigaethau statudol.

 

Gweler y canllawiau ar gyfer y sawl sy’n cyflwyno tystiolaeth I bwyllgor.

 

Datgelu gwybodaeth

Gwnewch yn saff eich bod wedi ystyried polisi’r Senedd o ran datgelu gwybodaeth cyn cyflwyno gwybodaeth i’r Pwyllgor.

Dogfennau ategol

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Email: SeneddHinsawdd@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565