Ymgynghoriad

Gweithredu diwygiadau addysg

Diben yr ymgynghoriad

Mae’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn monitro’r broses o weithredu dau ddiwygiad addysg allweddol wrth iddynt gael eu cyflwyno drwy gydol y Chweched Senedd:

>>>> 

>>>Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021

>>>Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018

<<< 

 

Trwy gydol y Chweched Senedd bydd yn monitro gweithrediad y diwygiadau hyn trwy gynnal cyfres o wiriadau byr, â ffocws, thematig. Bydd pob gwiriad yn cynnwys gweithgareddau ymgysylltu (e.e. ymweliadau ag ysgolion i siarad â staff, disgyblion a rhieni) a chraffu ar waith un o Weinidogion Llywodraeth Cymru.

 

Bydd yr ymatebion i'r ymgynghoriad yn helpu i lywio'r Pwyllgor o ran yr hyn y mae am ganolbwyntio arno cyn pob gwiriad arfaethedig.

 

Gall unrhyw un sydd â diddordeb naill ai yn y cwricwlwm newydd neu'r diwygiadau ADY - fel addysgwyr, rhanddeiliaid, disgyblion neu rieni - gyflwyno eu barn ar unrhyw elfen o gyflwyno'r diwygiadau addysg ar unrhyw adeg o’u taith pan gânt eu gweithredu.

 

Mae croeso i chi gyflwyno cymaint o ymatebion ag y dymunwch, mor rheolaidd ag y dymunwch. Byddant i gyd yn cyfrannu at benderfyniadau'r Pwyllgor ynghylch sut i ganolbwyntio ei waith craffu. Mae'n bwysig i'r Pwyllgor bod lleisiau rhanddeiliaid a'r cyhoedd yn cyfrannu at y corff hwn o waith.

 

Cyflwyno eich sylwadau

Hoffem pe bai modd i chi gyflwyno eich barn drwy lenwi’r profforma.

 

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyniadau yw diwedd Chweched Senedd Cymru (yn 2026).

 

Dylech anfon eich ffurflen wedi'i llenwi at SeneddPlant@senedd.cymru  

 

Rydym yn awyddus i glywed gan gynifer o bobl â phosibl. Os hoffech gyflwyno eich sylwadau ond nad ydych eisiau/nad ydych yn gallu cwblhau'r ffurflen hon, ffoniwch glercod y Pwyllgor, a all drefnu ffordd wahanol ichi fynegi eich barn

0300 200 6565 neu SeneddPlant@senedd.cymru

 

Cylch gorchwyl:

Bydd yr ymchwiliad hwn yn canolbwyntio ar:

>>>> 

>>>Weithredu’r Cwricwlwm i Gymru mewn lleoliadau blynyddoedd cynnar, ysgolion cynradd ac ysgolion uwchradd.

>>>Lefel cysondeb a thegwch y cyfleoedd dysgu i ddisgyblion ledled Cymru, o ystyried yr hyblygrwydd sydd i ysgolion ddatblygu eu cwricwla eu hunain o fewn fframwaith cenedlaethol.

>>>Diwygio cymwysterau i gyd-fynd â'r Cwricwlwm newydd i Gymru.

>>>Gweithredu'r system Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) newydd a throsglwyddo dysgwyr yn effeithiol o'r system Anghenion Addysgol Arbennig (AAA) bresennol.

>>>Cymhwyso'r diffiniad o ADY, o'i gymharu â’r diffiniad ar hyn o bryd ar gyfer AAA, ac a oes unrhyw achos o 'godi'r bar' o ran pennu cymhwysedd ar gyfer darpariaeth.

>>>Yr hyn y mae’r lleoliadau dysgu proffesiynol a chymorth eraill yn ei dderbyn er mwyn sicrhau gweithrediad effeithiol y Cwricwlwm i Gymru a’r system ADY.

>>>Ffactorau eraill a allai, o bosibl, effeithio ar weithrediad y Cwricwlwm i Gymru a’r system ADY, er enghraifft lefelau cyllid a’r hyn a gododd yn sgil y pandemig.

>>>Yr heriau a’r cyfleoedd penodol sy’n dod i ran gwahanol fathau o ysgolion mewn amgylchiadau amrywiol (e.e. cyfrwng iaith, demograffeg ac ardal) o ran gweithredu diwygio’r cwricwlwm ac ADY.

<<< 

 

Cyflwyno Tystiolaeth Ysgrifenedig

Mae gan y Senedd ddwy iaith swyddogol, sef Cymraeg a Saesneg.

 

Yn unol â Chynllun Ieithoedd Swyddogol y Senedd, mae'r Pwyllgor yn gofyn i ddogfennau neu ymatebion ysgrifenedig i ymgynghoriadau y bwriedir eu cyhoeddi neu eu defnyddio yn nhrafodion y Senedd gael eu cyflwyno yn ddwyieithog. Pan na chaiff dogfennau neu ymatebion ysgrifenedig eu cyflwyno yn ddwyieithog, byddwn yn cyhoeddi yn yr iaith a gyflwynwyd, gan ddweud eu bod wedi dod i law yn yr iaith honno'n unig.

 

Rydym yn disgwyl i sefydliadau eraill weithredu eu safonau neu eu cynlluniau eu hunain a chydymffurfio â'u rhwymedigaethau statudol.

 

Gweler y canllawiau ar gyfer y sawl sy’n cyflwyno tystiolaeth I bwyllgor.

 

Datgelu gwybodaeth

Gwnewch yn saff eich bod wedi ystyried polisi’r Senedd o ran datgelu gwybodaeth cyn cyflwyno gwybodaeth i’r Pwyllgor.

 

Sylwer bod rhai ymatebion wedi cael eu cyfyngu ar gais yr anfonwr.

Dogfennau ategol

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Email: SeneddChildren@senedd.wales
Ffôn: 0300 200 6565