Ymgynghoriad

Y Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru)

Ymateb i'r ymgynghoriad

Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

Mae’r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol yn cynnal gwaith craffu Cyfnod 1 ar egwyddorion cyffredinol y Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) (u Bil). Er mwyn helpu i lywio ei waith craffu, gofynnodd y Pwyllgor am safbwyntiau ar egwyddorion cyffredinol y Bil a’r angen am ddeddfwriaeth i gyflawni’r bwriad polisi a nodwyd. Gwahoddwyd y rhai a gyfrannodd at yr ymgynghoriad i ystyried darpariaethau allweddol y Bil, sef:

 

 

>>>> 

>>>   sefydlu Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol;

>>>   dyletswydd statudol ar rai cyrff cyhoeddus i geisio consensws neu gyfaddawd gyda’u hundebau llafur cydnabyddedig, neu (os nad oes undeb llafur cydnabyddedig) gyda chynrychiolwyr staff eraill, wrth bennu eu hamcanion llesiant a chyflawni’r amcanion hynny o dan adran 3(2) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015;

>>>   dyletswydd statudol ar Weinidogion Cymru i ymgynghori â phartneriaid cymdeithasol, cyflogwyr a chynrychiolwyr gweithwyr drwy’r Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol wrth gyflawni eu hamcanion llesiant o dan adran 3(2)(b) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015;

>>>   diwygio adran 4 o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 drwy roi ‘gwaith teg’ yn lle ‘gwaith addas’ yn y nod “Cymru lewyrchus” presennol;

>>>   dyletswydd statudol ar rai cyrff cyhoeddus i ystyried caffael cyhoeddus sy’n gymdeithasol gyfrifol wrth gyflawni gwaith caffael, i bennu amcanion mewn perthynas â nodau llesiant, ac i gyhoeddi strategaeth gaffael;

>>>   rhai cyrff cyhoeddus i gyflawni dyletswyddau rheoli contractau i sicrhau yr eir ar drywydd canlyniadau sy’n gymdeithasol gyfrifol drwy gadwyni cyflenwi;

>>>   dyletswyddau adrodd i’w gosod ar gyrff cyhoeddus a Gweinidogion Cymru mewn perthynas â’r ddyletswydd partneriaeth gymdeithasol a’r ddyletswydd gaffael;

<<< 

 

Gwahoddwyd cyfranwyr hefyd i ystyried:

 

Unrhyw rwystrau posibl rhag rhoi darpariaethau'r Bil ar waith, ac a yw’r Bil yn eu hystyried;

Priodoldeb y pwerau yn y Bil i Weinidogion Cymru wneud is-ddeddfwriaeth (fel y’u nodir ym Mhennod 5 o Ran 1 o’r Memorandwm Esboniadol);

A oes unrhyw ganlyniadau anfwriadol yn deillio o’r Bil; a

Goblygiadau ariannol y Bil (fel y’u nodir yn Rhan 2 o’r Memorandwm Esboniadol).

 

Cynhaliwyd yr ymgynghoriad tan 22 Gorffennaf 2022.

 

Dogfennau ategol

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Email: SeneddCydraddoldeb@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565