Ymgynghoriad

Lobïo

Ymateb i'r ymgynghoriad

Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

Mae’r Pwyllgor Safonau Ymddygiad yn cynnal ymchwiliad i lobïo ac mae’n awyddus i ddarganfod a yw lobïo yn destun pryder i bobl Cymru. Cytunwyd i ystyried a yw trefniadau presennol y Senedd o ran lobïo yn ddigon cadarn ac addas i'r diben ar gyfer y Chweched Senedd.  

 

Ar hyn o bryd nid oes gan y Senedd gofrestr lobïo, ond yn hytrach mae ganddi ganllawiau mewn perthynas â lobïo y cytunwyd arnynt drwy benderfyniad yn y Cyfarfod Llawn yn 2013. Mae’r canllawiau hyn yn ategu ac yn atodol i’r darpariaethau yn y Cod Ymddygiad mewn perthynas â lobïo, ac maent yn nodi’n glir na ddylai Aelodau ymgymryd â gwaith cyflogedig sy’n cynnwys lobïo ar ran rhywun. Mae'n nodi rhai o'r ystyriaethau y dylai Aelodau eu cael mewn perthynas ag ymdrin â lobïwyr posibl, fel llunio cofnodion a nodiadau ar gyfarfodydd o'r fath.

 

Mae gan y Senedd hefyd reolau mewn perthynas â Grwpiau Trawsbleidiol, sef grwpiau o Aelodau a phobl berthnasol y tu allan i’r Senedd sy’n cwrdd i drafod maes penodol. Cyflwynwyd y rheolau hyn ar ôl i’r mater gael ei ystyried gyntaf yn 2013. Ceir rhagor o wybodaeth a rhestr lawn o’r Grwpiau Trawsbleidiol ar wefan y Senedd. 

 

Byddai'r Pwyllgor yn croesawu eich barn am y pwyntiau a godir yn y ddogfen hon. Bydd angen anfon eich ymatebion erbyn 23 Mehefin 2022 i SeneddSafonau@senedd.cymru

 

Cyflwyno Tystiolaeth Ysgrifenedig

Mae gan y Senedd ddwy iaith swyddogol, sef Cymraeg a Saesneg.

 

Yn unol â Chynllun Ieithoedd Swyddogol y Senedd, mae'r Pwyllgor yn gofyn i ddogfennau neu ymatebion ysgrifenedig i ymgynghoriadau y bwriedir eu cyhoeddi neu eu defnyddio yn nhrafodion y Senedd gael eu cyflwyno yn ddwyieithog. Pan na chaiff dogfennau neu ymatebion ysgrifenedig eu cyflwyno yn ddwyieithog, byddwn yn cyhoeddi yn yr iaith a gyflwynwyd, gan ddweud eu bod wedi dod i law yn yr iaith honno'n unig.

 

Rydym yn disgwyl i sefydliadau eraill weithredu eu safonau neu eu cynlluniau eu hunain a chydymffurfio â'u rhwymedigaethau statudol.

 

Gweler y canllawiau ar gyfer y sawl sy’n cyflwyno tystiolaeth I bwyllgor.

 

Datgelu gwybodaeth

Gwnewch yn saff eich bod wedi ystyried polisi’r Senedd o ran datgelu gwybodaeth cyn cyflwyno gwybodaeth i’r Pwyllgor.

 

Dogfennau ategol

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Y Pwyllgor Safonau Ymddygiad
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Email: SeneddStandards@senedd.wales
Ffôn: 0300 200 6565