Ymgynghoriad
Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg - y fframwaith deddfwriaethol sy'n cefnogi Darpariaeth Addysg Gymraeg
- Mae’r ymgynghoriad hwn wedi dod i ben. Cynhaliwyd yr ymgynghoriad rhwng Dydd Mawrth, 12 Ebrill 2022 a Dydd Gwener, 24 Mehefin 2022
- Gwybodaeth gefndir i'r ymgynghoriad
- Gweld yr holl ymgynghoriadau presennol
Ymateb i'r ymgynghoriad
Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad
- WESP 01 - Estyn PDF 186 KB
- Cyfyngedig Gweld rhesymau dros gyfyngu
- WESP 02 - Comisiynydd Plant Cymru PDF 798 KB
- WESP 03 - Cyngor y Gweithlu Addysg (Saesneg yn unig) PDF 619 KB Gweld fel HTML (4) 17 KB
- WESP 04 - Consortia Addysg Rhanbarthol PDF 633 KB Gweld fel HTML (5) 39 KB
- WESP 05 - ColegauCymru (Saesneg yn unig) PDF 905 KB
- WESP 05a ColegauCymru (Saesneg yn unig) PDF 1 MB
- WESP 06 - Cymwysterau Cymru PDF 954 KB
- WESP 07 - Coleg Cymraeg Cenedlaethol PDF 562 KB Gweld fel HTML (9) 38 KB
- Cyfyngedig Gweld rhesymau dros gyfyngu
- WESP 08 - Comisiynydd y Gymraeg PDF 850 KB
- WESP 08a Comisiynydd y Gymraeg PDF 831 KB
- WESP 09 - Mudiad Meithrin PDF 668 KB Gweld fel HTML (13) 53 KB
- Cyfyngedig Gweld rhesymau dros gyfyngu
- WESP 10 - Unigolyn (Saesneg yn unig) PDF 209 KB Gweld fel HTML (15) 42 KB
- WESP 11 NASUWT (Saesneg yn unig) PDF 1 MB
- WESP 12 Cymdeithas yr Iaith PDF 268 KB Gweld fel HTML (17) 37 KB
- WESP 13 Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru (UCAC) PDF 584 KB Gweld fel HTML (18) 68 KB
- WESP 14 Dyfodol i’r Iaith - (Welsh only) (English Translation by Senedd Commission) PDF 584 KB Gweld fel HTML (19) 96 KB
- WESP 15 Rhieni Dros Addysg Gymraeg (RHAG) PDF 668 KB
- WESP 16 Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) a Chymdeithas Cyfarwyddwyr Addysg Cymru (ADEW) PDF 2 MB
Diben yr ymgynghoriad
Mae’r Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y
Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol a’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg
yn cynnal ymchwiliad i addysg cyfrwng Cymraeg, gan ganolbwyntio yn benodol ar
Gynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg. Ymchwiliad ar y cyd yw hwn, a bydd yn
edrych ar sut y mae’r fframwaith statudol, a sefydlwyd i hyrwyddo’r gwaith o
gynllunio a datblygu addysg Gymraeg, yn gweithio.
Hoffem glywed
gennych ar y cwestiynau a ganlyn:
>>>>
>>> Ym mis Rhagfyr 2015, cyhoeddodd Pwyllgor
Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Bedwaredd Senedd argymhellion yn ei adroddiad ar
‘Ymchwiliad
i Gynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg’. A yw’r fframwaith
deddfwriaethol ar gyfer Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg wedi gwella
ers hynny?
>>> I ba raddau y mae’r Cynlluniau Strategol
Cymraeg mewn Addysg yn cyfrannu at y canlyniadau a’r targedau a nodir yn
Strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer y Gymraeg – Cymraeg 2050?
>>> Sut mae awdurdodau lleol yn ymateb i
newidiadau i ganllawiau ar gategorïau ysgolion yn ôl darpariaeth cyfrwng
Cymraeg, ac a ydynt yn bodloni uchelgais Llywodraeth Cymru i gynyddu
darpariaeth cyfrwng Cymraeg mewn ysgolion cyfrwng Saesneg ac ysgolion dwy
ffrwd?
>>> Pa heriau a fydd yn codi o ran cynllunio a
datblygu darpariaeth cyfrwng Cymraeg, cyn Bil Addysg Gymraeg arfaethedig?
<<<
I gyflwyno ymateb
i’r ymgynghoriad, gweler y ffurflen
a ganlyn.
Cyflwyno
Tystiolaeth Ysgrifenedig
Mae gan y Senedd
ddwy iaith swyddogol, sef Cymraeg a Saesneg.
Yn unol â Chynllun
Ieithoedd Swyddogol y Senedd, mae'r Pwyllgor yn gofyn i ddogfennau neu
ymatebion ysgrifenedig i ymgynghoriadau y bwriedir eu cyhoeddi neu eu defnyddio
yn nhrafodion y Senedd gael eu cyflwyno yn ddwyieithog. Pan na chaiff dogfennau
neu ymatebion ysgrifenedig eu cyflwyno yn ddwyieithog, byddwn yn cyhoeddi yn yr
iaith a gyflwynwyd, gan ddweud eu bod wedi dod i law yn yr iaith honno'n unig.
Rydym yn disgwyl
i sefydliadau eraill weithredu eu safonau neu eu cynlluniau eu hunain a
chydymffurfio â'u rhwymedigaethau statudol.
Gweler y canllawiau
ar gyfer y sawl sy’n cyflwyno tystiolaeth I bwyllgor.
Datgelu
gwybodaeth
Gwnewch yn saff
eich bod wedi ystyried polisi’r
Senedd o ran datgelu gwybodaeth cyn cyflwyno gwybodaeth i’r Pwyllgor.
Manylion cyswllt
Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:
Pwyllgorau
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
CF99 1NA
Email: pwyllgorau@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565