Ymgynghoriad

Ymchwiliad i’r gwaith o weithredu’r fframwaith gwasanaeth cenedlaethol ar gyfer diabetes yng Nghymru

Ymateb i'r ymgynghoriad

Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

Cynhaliodd Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cynulliad Cenedlaethol ymchwiliad i weithredu’r fframwaith gwasanaeth cenedlaethol ar gyfer diabetes yng Nghymru a’i gyfeiriad yn y dyfodol yn ystod 2012/13.

 

Cylch gorchwyl yr ymchwiliad oedd i archwilio’r cynnydd a wnaed o ran gweithredu’r Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol ar gyfer Diabetes yng Nghymru ar draws y byrddau iechyd lleol a pha mor ddigonol ac effeithiol yw o ran atal a thrin diabetes yng Nghymru.

 

Fe wnaeth y Pwyllgor hefyd ystyried camau gweithredu posibl sydd eu hangen yn y dyfodol i lywio’r agenda hon.

 

Mae’r ymgynghoriad nawr wedi cau.

Dogfennau ategol

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Email: SeneddIechyd@Cynulliad.Cymru
Ffôn: 0300 200 6565