Ymgynghoriad
Cytundeb Masnach Rydd rhwng y DU a Seland Newydd
- Mae’r ymgynghoriad hwn wedi dod i ben. Cynhaliwyd yr ymgynghoriad rhwng Dydd Gwener, 25 Mawrth 2022 a Dydd Llun, 25 Ebrill 2022
- Gwybodaeth gefndir i'r ymgynghoriad
- Gweld yr holl ymgynghoriadau presennol
Ymateb i'r ymgynghoriad
Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad
- 01 - Hybu Cig Cymru (Saesneg yn unig) PDF 65 KB
- 02 - FSB Wales (Saesneg yn unig) PDF 661 KB Gweld fel HTML (2) 36 KB
- 03 - Beef and Lamb New Zealand Ltd, Meat Industry Association PDF 879 KB Gweld fel HTML (3) 57 KB
- 04 - RSPCA Cymru (Saesneg yn unig) PDF 208 KB
- 05 - NFU Cymru (Saesneg yn unig) PDF 438 KB Gweld fel HTML (5) 82 KB
Diben yr ymgynghoriad
Casglodd Pwyllgor
yr Economi, Masnach a Materion Gwledig safbwyntiau ar y Cytundeb Masnach
Rydd rhwng y DU a Seland Newydd.
Diben yr
ymgynghoriad
Ar 28 Chwefror
2022, llofnododd y DU a Seland Newydd Gytundeb Masnach Rydd rhwng y DU a Seland
Newydd yn dilyn Cytundeb mewn Egwyddor y daethpwyd iddo ym mis Hydref 2021.
Cynhaliodd
Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig waith craffu ar y Cytundeb
Masnach Rydd rhwng y DU a Seland Newydd. Gofynnodd y Pwyllgor am farn
rhanddeiliaid am y cytundeb a'i effaith debygol ar Gymru. Roedd y Pwyllgor yn
awyddus i glywed am effeithiau economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol y
cytundeb.
Croesawodd y
Pwyllgor safbwyntiau ar unrhyw un, os nad pob un, o'r materion yr ymdrinnir â
nhw yn y cylch gorchwyl, ac am y cwestiynau isod yn benodol:
>>>>
>>> Sut
bydd y cytundeb hwn yn effeithio arnoch chi, eich busnes neu eich sefydliad?
>>> Beth
fydd effaith debygol y cytundeb ar yr economi a sectorau penodol yng Nghymru?
>>> Beth
fydd effeithiau tebygol y cytundeb yn gymdeithasol ac yn amgylcheddol?
>>> Beth
fydd effeithiau tebygol darpariaethau’r cytundeb ar fasnachu cynhyrchion
amaethyddol yn y sector amaethyddol a bwyd yng Nghymru?
>>> Pa
gymorth y bydd ei angen ar eich busnes neu sefydliad gan lywodraethau Cymru a’r
DU i ymateb i’r cytundeb ac i baratoi ar gyfer ei weithredu?
<<<<
Y dyddiad cau ar
gyfer cyflwyniadau i'r ymchwiliad hwn oedd 25 Ebrill 2022.
Er eglurder, nid
oedd ffurflen benodol ar gyfer cyflwyniadau.
Manylion cyswllt
Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:
Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN
Email: SeneddEconomi@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565