Ymgynghoriad

Adolygiad y Pwyllgor Busnes o amserlen y pwyllgorau a chylchoedd gwaith pwyllgorau

Diben yr ymgynghoriad

Pan bennwyd cylchoedd gwaith y pwyllgorau ac amserlen y pwyllgorau ar ddechrau'r Chweched Senedd, cytunodd y Pwyllgor Busnes y dylid eu hadolygu ar ôl sawl mis o’u gweithredu.

 

Ym mis Rhagfyr 2021, cytunodd y Pwyllgor Busnes ar y cylch gorchwyl canlynol ar ôl ymgynghori â Fforwm y Cadeiryddion:

 

-          Adolygu'r dull presennol o ymdrin ag amserlen y pwyllgorau, a chylchoedd gwaith pwyllgorau, gyda'r bwriad o ganfod unrhyw newidiadau i'r dull a allai wella effeithiolrwydd pwyllgorau, wrth gynnal cydbwysedd priodol rhwng yr amser y mae aelodau'r pwyllgorau yn ei dreulio ar waith pwyllgorau (mewn cyfarfodydd pwyllgorau a'r tu allan iddynt) a'u cyfrifoldebau ehangach.

 

Cafodd yr adolygiad ei gynnal rhwng mis Ionawr a mis Mawrth 2022 ac roedd yn cynnwys ymgynghoriad â phwyllgorau, arolwg o’r Aelodau, gwaith ymgysylltu â staff a dadansoddi data.

 

Cafwyd ymateb ysgrifenedig gan 12 pwyllgor i wahoddiad y Llywydd i gyfrannu at yr adolygiad – gellir eu gweld isod.

 

Cytunodd y Pwyllgor Busnes ar newidiadau i amserlen y pwyllgorau ar 8 Mawrth 2022, i'w gweithredu ar ôl Pasg 2022.

 

Cyhoeddodd y Pwyllgor ei adroddiad (PDF, 463KB) ar 1 Ebrill 2022.

 

Dogfennau ategol

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Chamber Sec.