Ymgynghoriad

Craffu ar Fframweithiau Cyffredin

Ymateb i'r ymgynghoriad

Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

Mae Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig yn casglu sylwadau ar y Fframweithiau Cyffredin sydd o fewn ei gylch gwaith.

 

Diben yr ymgynghoriad

 

Gan fod cyfnod pontio Brexit bellach wedi dod i ben, gall Llywodraeth y DU a’r Llywodraethau datganoledig ddefnyddio dulliau gwahanol mewn meysydd polisi a oedd gynt yn cael eu llywodraethu neu eu cydgysylltu ar lefel yr UE. Yn 2017, penderfynodd y Llywodraethau eu bod am reoli gwahaniaethau mewn perthynas â rhai o’r meysydd polisi hyn. I wneud hyn, gwnaethant benderfynu sefydlu 'Fframweithiau Cyffredin' mewn rhai meysydd polisi yn unol â chyfres o chwe maen prawf. Yn gyffredinol, mae Fframweithiau Cyffredin yn gytundebau anneddfwriaethol rhwng y pedair Llywodraeth, sy’n nodi sut y byddant yn gweithio gyda'i gilydd a sut y byddant yn penderfynu pryd i ddilyn yr un rheolau a phryd i ymwahanu.

 

Mae gan bob un o bedair deddfwrfa'r DU gyfle i graffu ar Fframweithiau Cyffredin dros dro ac i wneud argymhellion cyn i’r fersiynau terfynol gael eu cwblhau gan Weinidogion.  Mae’r Pwyllgor yn ystyried Fframweithiau Cyffredin dros dro o fewn ei gylch gwaith ar y materion a ganlyn:

 

>>>> 

>>>Cymorth amaethyddol

>>>Iechyd a Lles Anifeiliaid

>>>Gwrteithwyr

>>>Iechyd planhigion

>>>Amrywogaethau a hadau planhigion

>>>Cynnyrch organig

<<<< 

 

Mae'r Pwyllgor eisoes wedi dechrau cymryd tystiolaeth mewn perthynas â'r Fframwaith Cyffredin dros dro ar Reoli a Chefnogi Pysgodfeydd.

 

Mae’r Pwyllgor yn gofyn i chi rannu eich barn ar y fframweithiau, a hynny at ddibenion llywio ei waith craffu.

 

Sut i rannu eich barn

 

Byddai’r Pwyllgor yn gwerthfawrogi eich sylwadau ar unrhyw un o’r Fframweithiau Cyffredin hyn, ac yn enwedig ar y materion a ganlyn:

 

>>>> 

>>>sut y gallent lywio’r broses o ddatblygu cyfreithiau a pholisïau Cymru; a

>>>sut y gallent effeithio ar eich sefydliad.

<<<< 

 

Gallwch rannu eich sylwadau drwy anfon neges e-bost at SeneddEconomi@Senedd.Cymru. Fel arall, gallwch anfon eich sylwadau drwy'r post at Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig, Senedd Cymru, Caerdydd, CF99 1SN.

 

Bydd y Pwyllgor yn trafod y Fframweithiau yn ystod ei gyfarfod ar 17 Mawrth. Felly, bydd unrhyw sylwadau sy’n dod i law erbyn dydd Mercher 9 Mawrth yn arbennig o ddefnyddiol i’r Aelodau. Bydd sylwadau sy’n cael eu hanfon atom ar ôl y dyddiad hwnnw yn parhau i fod yn destun ystyriaeth gan y Pwyllgor, cyn belled â'u bod yn dod i law erbyn 1 Ebrill 2022.

 

Er eglurder, nid oes ffurflen benodol ar gyfer cyflwyno sylwadau. Gallwch rannu eich barn yn electronig drwy anfon neges e-bost at SeneddEconomi@Senedd.Cymru. Fel arall, gallwch anfon eich sylwadau drwy'r post at Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig, Senedd Cymru, Caerdydd, CF99 1SN.

 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, neu os hoffech gael rhagor o wybodaeth, mae croeso i chi gysylltu â ni.

 

Cyflwyno Tystiolaeth Ysgrifenedig

Mae gan y Senedd ddwy iaith swyddogol, sef Cymraeg a Saesneg.

 

Yn unol â Chynllun Ieithoedd Swyddogol y Senedd, mae'r Pwyllgor yn gofyn i ddogfennau neu ymatebion ysgrifenedig i ymgynghoriadau y bwriedir eu cyhoeddi neu eu defnyddio yn nhrafodion y Senedd gael eu cyflwyno yn ddwyieithog. Pan na chaiff dogfennau neu ymatebion ysgrifenedig eu cyflwyno yn ddwyieithog, byddwn yn cyhoeddi yn yr iaith a gyflwynwyd, gan ddweud eu bod wedi dod i law yn yr iaith honno'n unig.

 

Rydym yn disgwyl i sefydliadau eraill weithredu eu safonau neu eu cynlluniau eu hunain a chydymffurfio â'u rhwymedigaethau statudol.

 

Gweler y canllawiau ar gyfer y sawl sy’n cyflwyno tystiolaeth I bwyllgor.

 

Datgelu gwybodaeth

Gwnewch yn saff eich bod wedi ystyried polisi’r Senedd o ran datgelu gwybodaeth cyn cyflwyno gwybodaeth i’r Pwyllgor.

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Email: SeneddEconomi@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565