Ymgynghoriad
Cymryd rhan mewn chwaraeon mewn ardaloedd difreintiedig
- Mae’r ymgynghoriad hwn wedi dod i ben. Cynhaliwyd yr ymgynghoriad rhwng Dydd Llun, 7 Chwefror 2022 a Dydd Gwener, 18 Mawrth 2022
- Gwybodaeth gefndir i'r ymgynghoriad
- Gweld yr holl ymgynghoriadau presennol
Diben yr ymgynghoriad
Cynhaliodd y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y
Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol ymchwiliad i gymryd rhan mewn
chwaraeon mewn ardaloedd difreintiedig. Ystyriodd faterion sy’n effeithio ar
bobl mewn ardaloedd y nodir eu bod yn gymharol ddifreintiedig yn ôl Mynegai
Amddifadedd Lluosog Cymru, gan gynnwys y materion a ganlyn:
- Beth
yw'r prif rwystrau sy’n atal pobl rhag cymryd rhan mewn chwaraeon mewn
ardaloedd difreintiedig? Sut mae'r rhain yn croestorri â ffactorau eraill,
gan gynnwys:
- Oedran,
- Rhyw a rhywedd,
- Statws economaidd-gymdeithasol,
- Daearyddiaeth,
- Anabledd,
- Ethnigrwydd,
- Pa mor
glir yw’r darlun sydd gennym o’r lefelau cyfranogiad presennol mewn
ardaloedd difreintiedig? A yw'r data presennol yn galluogi ymyriadau
polisi i fod yn effeithiol?
- Sut y
dylid defnyddio arian cyhoeddus i gynyddu cyfranogiad mewn ardaloedd
difreintiedig?
- Pa mor
effeithiol yw’r ymyriadau presennol o ran cynyddu cyfranogiad mewn
ardaloedd difreintiedig?
- A yw’r
pandemig wedi achosi unrhyw newidiadau parhaus i lefelau cyfranogiad mewn
ardaloedd difreintiedig?
- Pa mor
effeithiol y mae gwahanol sectorau (er enghraifft, addysg ac iechyd) yn cydweithio
i wella cyfranogiad mewn chwaraeon mewn ardaloedd difreintiedig?
- A oes
enghreifftiau o arfer gorau, o fewn Cymru ac yn rhyngwladol, y dylid dysgu
oddi wrthynt i gynyddu cyfranogiad mewn chwaraeon mewn ardaloedd
difreintiedig?
Dogfennau ategol
- SDA 01 - Unigolyn (Saesneg yn unig) PDF 131 KB
- SDA 02 - Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru PDF 1 MB
- SDA 03 - Cymdeithas Bêl Droed Cymru (Saesneg yn unig) PDF 202 KB
- SDA 04 - Chwaraeon Cymru PDF 990 KB
- SDA 05 - Criced Cymru (Saesneg yn unig) PDF 162 KB
- SDA 06 - Sported Foundation (Saesneg yn unig) PDF 118 KB
- SDA 07 - Colegau Cymru (Saesneg yn unig) PDF 1 MB
- SDA 08 - Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (Saesneg yn unig) PDF 1 MB
- SDA 09 - Urdd Gobaith Cymru PDF 1 MB
- SDA 10 - StreetGames (Saesneg yn unig) PDF 1 MB
- Cyfyngedig Gweld rhesymau dros gyfyngu
- SDA 11 - Nofio Cymru (Saesneg yn unig) PDF 1 MB
Manylion cyswllt
Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:
Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN
Email: SeneddCulture@senedd.wales
Ffôn: 0300 200 6565