Ymgynghoriad

Y Cytundeb Masnach Rydd rhwng y DU ac Awstralia

Ymateb i'r ymgynghoriad

Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

Casglodd Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig ar y Cytundeb Masnach Rydd rhwng y DU ac Awstralia.

 

Diben yr ymgynghoriad

Ar 16 Rhagfyr 2021, llofnododd Llywodraethau’r DU ac Awstralia Gytundeb Masnach Rydd rhwng y DU ac Awstralia yn dilyn Cytundeb mewn Egwyddor y daethpwyd iddo ym mis Mehefin 2021. Dyma’r cytundeb masnach cyntaf y mae’r DU wedi’i negodi a’i gwblhau o’r cychwyn cyntaf ers i’r DU ymadael â’r Undeb Ewropeaidd.

 

Cynhaliodd Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig waith craffu ar y Cytundeb Masnach Rydd rhwng y DU ac Awstralia. Gofynnodd y Pwyllgor am farn rhanddeiliaid am y cytundeb a'i effaith debygol ar Gymru. Roedd y Pwyllgor yn awyddus i glywed am effeithiau economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol y cytundeb.

 

Croesawodd y Pwyllgor farn am unrhyw un, os nad pob un, o'r materion yr ymdrinnir â nhw yn y cylch gorchwyl, ac am y cwestiynau isod yn benodol:

>>>> 

>>>Sut bydd y cytundeb hwn yn effeithio arnoch chi, eich busnes neu eich sefydliad?

>>>Beth fydd effaith debygol y cytundeb ar yr economi a sectorau penodol yng Nghymru?

>>>Beth fydd effeithiau tebygol y cytundeb yn gymdeithasol ac yn amgylcheddol?

>>>Beth fydd effeithiau tebygol darpariaethau’r cytundeb ar fasnachu cynhyrchion amaethyddol yn y sector amaethyddol a bwyd yng Nghymru?

>>>Pa gymorth y bydd ei angen ar eich busnes neu sefydliad gan lywodraethau Cymru a’r DU i ymateb i’r cytundeb ac i baratoi ar gyfer ei weithredu?

<<<< 

 

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyniadau i'r ymchwiliad hwn oedd 18 Chwefror 2022.

 

Er eglurder, nid oedd ffurflen benodol ar gyfer cyflwyniadau.

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Email: SeneddEconomi@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565