Ymgynghoriad
Y Cytundeb Masnach Rydd rhwng y DU ac Awstralia
- Mae’r ymgynghoriad hwn wedi dod i ben. Cynhaliwyd yr ymgynghoriad rhwng Dydd Gwener, 21 Ionawr 2022 a Dydd Gwener, 18 Chwefror 2022
- Gwybodaeth gefndir i'r ymgynghoriad
- Gweld yr holl ymgynghoriadau presennol
Ymateb i'r ymgynghoriad
Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad
- FTA01 - Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru (Saesneg yn unig)
PDF 562 KB Gweld fel HTML (1) 46 KB
- FTA02 - Undeb Amaethwyr Cymrus (Saesneg yn unig)
PDF 215 KB
- FTA03 - Make UK (Saesneg yn unig)
PDF 319 KB
- FTA04 - Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr Cymru (Saesneg yn unig)
PDF 959 KB
- FTA05 - RSPCA Cymru (Saesneg yn unig)
PDF 315 KB
- FTA06 - Four Paws (Saesneg yn unig)
PDF 985 KB
- FTA07 - Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (Saesneg yn unig)
PDF 252 KB Gweld fel HTML (7) 32 KB
Diben yr ymgynghoriad
Casglodd Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig ar y Cytundeb Masnach Rydd rhwng y DU ac
Awstralia.
Diben yr
ymgynghoriad
Ar 16
Rhagfyr 2021, llofnododd Llywodraethau’r DU ac Awstralia Gytundeb Masnach Rydd
rhwng y DU ac Awstralia yn dilyn Cytundeb mewn Egwyddor y daethpwyd iddo ym mis
Mehefin 2021. Dyma’r cytundeb masnach cyntaf y mae’r DU wedi’i negodi a’i
gwblhau o’r cychwyn cyntaf ers i’r DU ymadael â’r Undeb Ewropeaidd.
Cynhaliodd
Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig waith craffu ar y Cytundeb
Masnach Rydd rhwng y DU ac Awstralia. Gofynnodd y Pwyllgor am farn
rhanddeiliaid am y cytundeb a'i effaith debygol ar Gymru. Roedd y Pwyllgor yn
awyddus i glywed am effeithiau economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol y
cytundeb.
Croesawodd
y Pwyllgor farn am unrhyw un, os nad pob un, o'r materion yr ymdrinnir â nhw yn
y cylch gorchwyl, ac am y cwestiynau isod yn benodol:
>>>>
>>>Sut
bydd y cytundeb hwn yn effeithio arnoch chi, eich busnes neu eich sefydliad?
>>>Beth
fydd effaith debygol y cytundeb ar yr economi a sectorau penodol yng Nghymru?
>>>Beth
fydd effeithiau tebygol y cytundeb yn gymdeithasol ac yn amgylcheddol?
>>>Beth
fydd effeithiau tebygol darpariaethau’r cytundeb ar fasnachu cynhyrchion
amaethyddol yn y sector amaethyddol a bwyd yng Nghymru?
>>>Pa
gymorth y bydd ei angen ar eich busnes neu sefydliad gan lywodraethau Cymru a’r
DU i ymateb i’r cytundeb ac i baratoi ar gyfer ei weithredu?
<<<<
Y dyddiad
cau ar gyfer cyflwyniadau i'r ymchwiliad hwn oedd 18 Chwefror 2022.
Er
eglurder, nid oedd ffurflen benodol ar gyfer cyflwyniadau.
Manylion cyswllt
Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:
Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN
Email: SeneddEconomi@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565