Ymgynghoriad

Adolygiad blynyddol o'r Penderfyniad: cynigion ar gyfer 2022-23

Diben yr ymgynghoriad

Mae’r Bwrdd Taliadau wedi lansio ei ymgynghoriad ar yr adolygiad blynyddol o'r Penderfyniad. Cynhelwyd yr ymgynghoriad rhwng 7 Ionawr 2022 a 17 Chwefror 2022.

 

Mae’r Bwrdd yn adolygu’r Penderfyniad ar gyflogau a lwfansau’r Aelodau yn flynyddol i sicrhau bod y lwfansau a ddarperir yn parhau’n briodol ar gyfer y flwyddyn ariannol sydd i ddod.

 

Cyhoeddwyd y Penderfyniad ar gyfer y Chweched Senedd ym mis Mawrth 2021; daeth i rym yn dilyn etholiad y Senedd ym mis Mai 2021.

 

Mae manylion am gynigion y Bwrdd ar gyfer lwfansau yn y flwyddyn ariannol nesaf (2022-23) ar gael yn ei ddogfen ymgynghori (PDF 577KB).

 

Darparu tystiolaeth ysgrifenedig

Mae gan y Senedd ddwy iaith swyddogol, sef Cymraeg a Saesneg.

 

Yn unol â Chynllun Ieithoedd Swyddogol y Senedd, mae'r Bwrdd yn gofyn i ddogfennau neu ymatebion ysgrifenedig i ymgynghoriadau y bwriedir eu cyhoeddi neu eu defnyddio gan y Bwrdd gael eu cyflwyno yn ddwyieithog. Pan na chaiff dogfennau neu ymatebion ysgrifenedig eu cyflwyno yn ddwyieithog, byddant yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y’u cyflwynwyd, a byddwn yn nodi eu bod wedi dod i law yn yr iaith honno'n unig.

 

Mae'r Bwrdd yn disgwyl i sefydliadau eraill weithredu eu safonau neu eu cynlluniau eu hunain a chydymffurfio â'u rhwymedigaethau statudol.

 

Datgelu gwybodaeth

Sicrhewch eich bod wedi ystyried polisi preifatrwydd y Bwrdd cyn cyflwyno gwybodaeth i’r Bwrdd.

 

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno gwybodaeth oedd 17.00 ar 17 Chwefror 2022. Mae'n bosibl na fydd modd inni ystyried unrhyw ymateb sy'n dod i law ar ôl y dyddiad hwn.

 

Gallwch gyflwyno eich sylwadau drwy anfon e-bost at Taliadau@senedd.cymru.

 

 

Ar 31 Mawrth 2022, gosododd Comisiwn y Senedd, ar ran y Bwrdd, y Penderfyniad ar Gyflogau a Lwfansau’r Aelodau ar gyfer 2022-23 a’r adroddiad cysylltiedig.

 

Dogfennau ategol

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Y Bwrdd Taliadau
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Email: Taliadau@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565