Ymgynghoriad
Adolygiad o’r Penderfyniad ar gyfer y Chweched Senedd
- Mae’r ymgynghoriad hwn wedi dod i ben. Cynhaliwyd yr ymgynghoriad rhwng Dydd Mercher, 16 Rhagfyr 2020 a Dydd Iau, 11 Chwefror 2021
- Gwybodaeth gefndir i'r ymgynghoriad
- Gweld yr holl ymgynghoriadau presennol
Diben yr ymgynghoriad
Ymgynghorodd y Bwrdd Taliadau ar yr Adolygiad o’r
Penderfyniad ar gyfer y Chweched Senedd ym mis Rhagfyr 2020. Gofynnwyd am farn am
y cynigion a amlinellwyd yn y ddogfen
ymgynghori (PDF 1MB).
Cyhoeddwyd y
Penderfyniad ar gyfer y Chweched Senedd ar 4 Mehefin 2020, a daeth i rym ar y
diwrnod cyntaf ar ôl etholiad nesaf y Senedd.
Mae’r Senedd wedi
gweld newidiadau sylweddol dros y ddau ddegawd diwethaf o ran ei phwerau a’i
chyfrifoldebau ac o ran disgwyliadau o’r sefydliad a’i Aelodau. Yn ogystal â
bodloni gofynion newid cyfansoddiadol, mae Aelodau o’r Chweched Senedd hefyd yn
debygol o wynebu’r her o gynrychioli eu hetholwyr a dwyn y Llywodraeth i gyfrif
yn erbyn cefndir
argyfwng iechyd
byd-eang parhaus a'r effeithiau economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol
cysylltiedig.
Fel Bwrdd newydd
(fe’i sefydlwyd ym mis Medi 2020), roedd angen ystyried sawl mater nad oeddent
wedi’u datrys er mwyn cwblhau'r Penderfyniad ar gyfer tymor nesaf y Senedd yng
ngoleuni'r amgylchiadau eithriadol oherwydd pandemig COVID-19. Bwriad y
cynigion yn nogfen yr ymgynghoriad oedd rhoi mwy o eglurder i’r Aelodau a'u
staff ar yr adeg ansicr hon.
Mae'r cynigion yn
y ddogfen ymgynghori’n adlewyrchu pwyslais y Bwrdd ar werth am arian a gwneud
penderfyniadau sy'n briodol yng nghyd-destun amgylchiadau ariannol ehangach
Cymru, gan hwyluso gwaith yr Aelodau ar yr un pryd.
Mae pwysigrwydd
meithrin perthynas waith effeithiol a phriodol rhwng y Bwrdd a'r Aelodau a'u
staff yn glir.
Darparu
tystiolaeth ysgrifenedig
Mae gan y Senedd
ddwy iaith swyddogol, sef Cymraeg a Saesneg.
Yn unol â Chynllun
Ieithoedd Swyddogol y Senedd, mae'r Bwrdd yn gofyn i ddogfennau neu
ymatebion ysgrifenedig i ymgynghoriadau y bwriedir eu cyhoeddi neu eu defnyddio
gan y Bwrdd gael eu cyflwyno yn ddwyieithog. Pan na chaiff dogfennau neu
ymatebion ysgrifenedig eu cyflwyno yn ddwyieithog, byddant yn cael eu cyhoeddi
yn yr iaith a gyflwynwyd, a byddwn yn nodi eu bod wedi dod i law yn yr iaith
honno'n unig.
Mae'r Bwrdd yn
disgwyl i sefydliadau eraill weithredu eu safonau neu eu cynlluniau eu hunain a
chydymffurfio â'u rhwymedigaethau statudol.
Datgelu
gwybodaeth
Gwnewch yn saff
eich bod wedi ystyried polisi
preifatrwydd y Bwrdd cyn cyflwyno gwybodaeth i’r Bwrdd.
Y dyddiad cau ar gyfer
cyflwyno gwybodaeth oedd dydd Iau 11 Chwefror 2021. Mae'n bosibl na fydd modd
inni ystyried unrhyw ymateb sy'n dod i law ar ôl y dyddiad hwn.
You can submit
your views by emailing Remuneration@senedd.wales.
Dogfennau ategol
- Ymgynghoriad: Adolygiad o’r Penderfyniad ar gyfer y Chweched Senedd
PDF 1 MB
- Polisi Preifatrwydd: Y Bwrdd Taliadau - Mai 2020
PDF 105 KB
Manylion cyswllt
Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:
Y Bwrdd Taliadau
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN
Email: Taliadau@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565