Ymgynghoriad

Effaith yr ôl-groniad o ran amseroedd aros ar bobl yng Nghymru sy’n aros am ddiagnosis neu driniaeth

Ymateb i'r ymgynghoriad

Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

Mae’r rhestrau aros ar gyfer apwyntiadau diagnostig a therapi, a thriniaeth lawfeddygol yng Nghymru, wedi cynyddu’n sylweddol yn ystod y pandemig COVID-19. Mae nifer y bobl ar restrau aros y GIG yn cyfateb i oddeutu 1 o bob 5 o boblogaeth Cymru, ac mae tua 37 y cant o’r bobl sy’n aros i ddechrau triniaeth wedi bod yn aros dros 9 mis.

 

Mae’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn cynnal ymchwiliad byr i effaith yr ôl-groniad o ran amseroedd aros ar bobl yng Nghymru sy’n aros am ddiagnosis neu driniaeth.

 

Yn benodol, bydd y Pwyllgor yn ystyried:

 

>>>> 

>>>Y gwasanaethau sydd ar waith ar gyfer pobl sy’n aros am apwyntiadau diagnosteg a thriniaeth, yn enwedig cymorth i reoli poen.

>>>Mynediad at therapïau seicolegol a chefnogaeth emosiynol i’r rheini a allai fod yn profi pryder neu drallod o ganlyniad i amseroedd aros hir.

>>>Y cyfraniad y gall y trydydd sector ei wneud wrth ddarparu cymorth cymheiriaid a gwybodaeth i gleifion sydd ar restr aros y GIG.

>>>Pa mor effeithiol yw’r negeseuon ar gyfer y cyhoedd ac ymgysylltu â phobl ynghylch y gofynion ar y gwasanaeth a phwysigrwydd ceisio gofal yn brydlon.

>>>I ba raddau y mae anghydraddoldebau’n bodoli o ran yr ôl-groniad dewisol, o ran ardaloedd difreintiedig yn wynebu rhestrau aros anghymesur o fawr y pen o’r boblogaeth, o gymharu â’r ardaloedd lleiaf difreintiedig.

>>>Cynlluniau i adfer gofal wedi’i gynllunio y GIG yng Nghymru yn llawn.

<<< 

 

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyniadau yw dydd Iau 13 Ionawr 2022.

 

Ynghyd â'ch cyflwyniad, dylech ddarparu'r wybodaeth a ganlyn:

 

>>>> 

>>>Eich enw a’ch manylion cyswllt fel y person neu’r sefydliad sy’n cyflwyno’r dystiolaeth.

>>>A yw eich tystiolaeth yn cael ei chyflwyno gan unigolyn neu ar ran sefydliad.

>>>Os ydych yn cyflwyno tystiolaeth fel unigolyn, cadarnhad eich bod dros 18 mlwydd oed.

>>>Os ydych o dan 13 blwydd oed, cytundeb eich rhiant neu warcheidwad y gallwch gymryd rhan (gellir darparu hyn drwy e-bost).

>>>Cadarnhad a fyddai'n well gennych i’ch enw beidio â chael ei gyhoeddi ochr yn ochr â'ch tystiolaeth (ni fydd enwau unigolion o dan 18 oed yn cael eu cyhoeddi).

>>>Cadarnhad o ran a hoffech i’r pwyllgor drin eich holl dystiolaeth ysgrifenedig, neu unrhyw ran ohoni, yn gyfrinachol, gyda rhesymau dros y cais.

>>>Os ydych wedi cyfeirio at drydydd parti yn eich tystiolaeth, er enghraifft rhiant, priod neu berthynas, cadarnhad eu bod wedi cytuno y gallwch rannu gwybodaeth y gellir ei defnyddio i'w hadnabod a'u bod yn deall y caiff ei chyhoeddi.

<<< 

 

Sut i rannu eich barn

I rannu eich barn yn electronig, anfonwch neges e-bost at SeneddIechyd@senedd.cymru, neu drwy'r post at:

 

Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol,

Senedd Cymru,

Caerdydd,

CF99 1SN

 

Cyflwyno Tystiolaeth Ysgrifenedig

Mae gan y Senedd ddwy iaith swyddogol, sef Cymraeg a Saesneg.

 

Yn unol â Chynllun Ieithoedd Swyddogol y Senedd, mae'r Pwyllgor yn gofyn i ddogfennau neu ymatebion ysgrifenedig i ymgynghoriadau y bwriedir eu cyhoeddi neu eu defnyddio yn nhrafodion y Senedd gael eu cyflwyno yn ddwyieithog. Pan na chaiff dogfennau neu ymatebion ysgrifenedig eu cyflwyno yn ddwyieithog, byddwn yn cyhoeddi yn yr iaith a gyflwynwyd, gan ddweud eu bod wedi dod i law yn yr iaith honno'n unig.

 

Rydym yn disgwyl i sefydliadau eraill weithredu eu safonau neu eu cynlluniau eu hunain a chydymffurfio â'u rhwymedigaethau statudol.

 

Gweler y canllawiau ar gyfer y sawl sy’n cyflwyno tystiolaeth I bwyllgor.

 

Datgelu gwybodaeth

Gwnewch yn saff eich bod wedi ystyried polisi’r Senedd o ran datgelu gwybodaeth cyn cyflwyno gwybodaeth i’r Pwyllgor.

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Email: SeneddIechyd@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565