Ymgynghoriad

Rhyddhau cleifion o ysbytai ac effaith hynny ar y llif cleifion drwy ysbytai

Ymateb i'r ymgynghoriad

Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

 

Mae llif da o ran cleifion yn gwella ansawdd gofal i gleifion, ond mae nifer o ffactorau'n debygol o fod yn achosi oedi wrth drosglwyddo gofal, gan gynnwys problemau capasiti o fewn y system gofal cymdeithasol, ac o ganlyniad mae rhai cleifion sy'n barod i'w rhyddhau yn aros yn yr ysbyty. Mae hyn yn cael effaith niweidiol ar yr unigolyn, ac ar y llif cleifion drwy'r ysbyty, ac mae’n cyfrannu at bwysau ar adrannau Damweiniau ac Achosion Brys a’r gwasanaethau ambiwlans.

 

Yn ystod y Chweched Senedd, mae’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn bwriadu edrych ar sut y gellir gwella llif cleifion drwy ysbytai.

 

Rhan gyntaf y gwaith hwn yw cynnal ymchwiliad byr sy'n canolbwyntio ar ryddhau cleifion o ysbytai ac effaith hynny ar y llif cleifion drwy ysbytai.

 

Yn benodol, ystyriodd y Pwyllgor:

 

  • graddfa'r sefyllfa bresennol o ran oedi wrth drosglwyddo gofal o ysbytai.
  • effaith oedi wrth ryddhau cleifion o ysbytai ar yr unigolyn ac ar y llif cleifion drwy ysbytai ac ar y pwysau ar y gwasanaeth.
  • yr amrywiadau o ran arferion rhyddhau cleifion o ysbytai ledled Cymru ac ar draws y ffin, a sut maent yn diwallu anghenion gofal a chymorth unigolion.
  • y prif achosion pwysau a'r prif rwystrau i ryddhau cleifion ag anghenion gofal a chymorth o ysbytai, gan gynnwys gallu'r gwasanaethau gofal cymdeithasol.
  • y gefnogaeth, y cymorth a'r cyngor sydd ar waith ar gyfer gofalwyr teuluol a gofalwyr di-dâl yn ystod y broses.
  • yr hyn sydd wedi gweithio yng Nghymru, a rhannau eraill o'r DU, wrth gefnogi rhyddhau cleifion o ysbytai a gwella llif cleifion, ac adnabod y nodweddion cyffredin.
  • yr hyn sydd ei angen i alluogi pobl i ddychwelyd adref ar yr adeg iawn, gyda'r gofal a'r cymorth cywir ar waith, gan gynnwys mynediad at wasanaethau ailalluogi, ac ystyried anghenion o ran tai.

 

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyniadau oedd dydd Gwener 7 Ionawr 2022.

 

Ynghyd â'ch cyflwyniad, dylech ddarparu'r wybodaeth a ganlyn:

 

  • Eich enw a’ch manylion cyswllt fel y person neu’r sefydliad sy’n cyflwyno’r dystiolaeth.
  • A yw eich tystiolaeth yn cael ei chyflwyno gan unigolyn neu ar ran sefydliad.
  • Os ydych yn cyflwyno tystiolaeth fel unigolyn, cadarnhad eich bod dros 18 mlwydd oed.
  • Os ydych o dan 13 mlwydd oed, cytundeb eich rhiant neu warcheidwad y gallwch gymryd rhan (gellir darparu hyn drwy e-bost).
  • Cadarnhad a fyddai'n well gennych i’ch enw beidio â chael ei gyhoeddi ochr yn ochr â'ch tystiolaeth (ni fydd enwau unigolion o dan 18 oed yn cael eu cyhoeddi).
  • Cadarnhad o ran a hoffech i’r pwyllgor drin eich holl dystiolaeth ysgrifenedig, neu unrhyw ran ohoni, yn gyfrinachol, gyda rhesymau dros y cais.
  • Os ydych wedi cyfeirio at drydydd parti yn eich tystiolaeth, er enghraifft rhiant, priod neu berthynas, cadarnhad eu bod wedi cytuno y gallwch rannu gwybodaeth y gellir ei defnyddio i'w hadnabod a'u bod yn deall y caiff ei chyhoeddi.

 

Sut i rannu eich barn

 

I rannu eich barn yn electronig, anfonwch neges e-bost at SeneddIechyd@senedd.cymru, neu drwy'r post at y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Senedd Cymru, Caerdydd, CF99 1SN.

 

 

Cyflwyno Tystiolaeth Ysgrifenedig

 

Mae gan y Senedd ddwy iaith swyddogol, sef Cymraeg a Saesneg.

 

Yn unol â Chynllun Ieithoedd Swyddogol y Senedd, mae'r Pwyllgor yn gofyn i ddogfennau neu ymatebion ysgrifenedig i ymgynghoriadau y bwriedir eu cyhoeddi neu eu defnyddio yn nhrafodion y Senedd gael eu cyflwyno yn ddwyieithog. Pan na chaiff dogfennau neu ymatebion ysgrifenedig eu cyflwyno yn ddwyieithog, byddwn yn cyhoeddi yn yr iaith a gyflwynwyd, gan ddweud eu bod wedi dod i law yn yr iaith honno'n unig.

 

Rydym yn disgwyl i sefydliadau eraill weithredu eu safonau neu eu cynlluniau eu hunain a chydymffurfio â'u rhwymedigaethau statudol.

 

Gweler y canllawiau ar gyfer y sawl sy’n cyflwyno tystiolaeth I bwyllgor.

 

Datgelu gwybodaeth

 

Gwnewch yn saff eich bod wedi ystyried polisi’r Senedd o ran datgelu gwybodaeth cyn cyflwyno gwybodaeth i’r Pwyllgor.

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Email: SeneddIechyd@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565