Ymgynghoriad

Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru)

Diben yr ymgynghoriad

Cynhaliodd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ymchwiliad i egwyddorion cyffredinol y Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) ('y Bil') (PDF 1,180KB)

 

Diben y Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) oedd sefydlu'r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil, fel y corff rheoleiddio annibynnol sy'n gyfrifol am ariannu, goruchwylio a rheoleiddio addysg drydyddol ac ymchwil yng Nghymru. Bydd addysg drydyddol yn cwmpasu addysg ôl-16 gan gynnwys addysg bellach ac uwch, prentisiaethau a'r chweched dosbarth.

 

Ceir rhagor o fanylion am y Bil yn ei Femorandwm Esboniadol cysylltiedig (PDF 5,935KB)
Mae crynodeb o'r Bil ar gael (PDF 1,008KB)

 

Cylch gorchwyl

 

Egwyddorion cyffredinol y Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) a’r angen am ddeddfwriaeth i gyflawni’r bwriad polisi a nodir. Wrth ffurfio barn ar y mater hwn, efallai y byddwch am ystyried Rhannau unigol o'r Bil:

 

  • Rhan 1: fframwaith strategol ar gyfer addysg drydyddol ac ymchwil
  • Rhan 2: cofrestru a rheoleiddio darparwyr addysg drydyddol
  • Rhan 3: sicrhau a chyllido addysg drydyddol ac ymchwil
  • Rhan 4: prentisiaethau
  • Rhan 5: diogelu dysgwyr, gweithdrefnau cwyno a chynnwys dysgwyr
  • Rhan 6: gwybodaeth, cyngor a chyfarwyddyd
  • Rhan 7: darpariaethau amrywiol a darpariaethau cyffredinol

 

Unrhyw rwystrau posibl i weithredu darpariaethau'r Bil ac a yw'r Bil yn eu hystyried (gan gynnwys cychwyn a Deddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig)

 

Priodoldeb y pwerau yn y Bil i Weinidogion Cymru wneud is-ddeddfwriaeth (fel y nodir ym Mhennod 5 o Ran 1 o’r Memorandwm Esboniadol);

 

A oes unrhyw ganlyniadau anfwriadol yn deillio o’r Bil; a

 

Goblygiadau ariannol y Bil (fel y’u nodir yn Rhan 2 o’r Memorandwm Esboniadol).

 

Daeth yr ymgynghoriad i ben ddydd Gwener 17 Rhagfyr.

 

Dogfennau ategol

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Email: SeneddChildren@senedd.wales
Ffôn: 0300 200 6565