Ymgynghoriad

Cyllideb Llywodraeth Cymru 2022-23

Ymateb i'r ymgynghoriad

Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

Mae Pwyllgorau’r Senedd yn ceisio gwybodaeth i lywio eu gwaith craffu ar gynigion Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2022-23. Rydym yn awyddus i drafod y disgwyliadau o ran cyllideb 2022-23, gan gynnwys parodrwydd ariannol ar gyfer blwyddyn ariannol 2022-23 ac effaith cyllideb 2021-22.

 

Mae'r Pwyllgor Cyllid yn edrych ar gyllideb Llywodraeth Cymru o safbwynt strategol, trosfwaol. Rydym hefyd yn gweithio gyda phwyllgorau eraill y Senedd i sicrhau bod y cynigion ar gyfer adrannau penodol, neu bortffolios Cabinet penodol, yn cael eu hystyried yn fanwl.

 

Hoffai'r Pwyllgor ofyn eich barn ar y cwestiynau penodol sydd wedi'u cynnwys yn y llythyr ymgynghori (PDF, 279KB) ac unrhyw sylwadau cyffredinol eraill sydd gennych ar y gyllideb ddrafft.

 

Cyflwyno Tystiolaeth Ysgrifenedig

Mae gan y Senedd ddwy iaith swyddogol, sef Cymraeg a Saesneg.

 

Yn unol â Chynllun Ieithoedd Swyddogol y Senedd, mae'r Pwyllgor yn gofyn i ddogfennau neu ymatebion ysgrifenedig i ymgynghoriadau y bwriedir eu cyhoeddi neu eu defnyddio yn nhrafodion y Senedd gael eu cyflwyno yn ddwyieithog. Pan na chaiff dogfennau neu ymatebion ysgrifenedig eu cyflwyno yn ddwyieithog, byddwn yn cyhoeddi yn yr iaith a gyflwynwyd, gan ddweud eu bod wedi dod i law yn yr iaith honno'n unig.

 

Rydym yn disgwyl i sefydliadau eraill weithredu eu safonau neu eu cynlluniau eu hunain a chydymffurfio â'u rhwymedigaethau statudol.

 

Gweler y canllawiau ar gyfer y sawl sy’n cyflwyno tystiolaeth I bwyllgor.

 

Datgelu gwybodaeth

Gwnewch yn saff eich bod wedi ystyried polisi’r Senedd o ran datgelu gwybodaeth cyn cyflwyno gwybodaeth i’r Pwyllgor.

Dogfennau ategol

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Y Pwyllgor Cyllid
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Email: SeneddCyllid@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565