Ymgynghoriad

Y gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol

Ymateb i'r ymgynghoriad

Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

 

Bydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn cynnal sesiwn dystiolaeth lafar gydag Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) a Gofal Cymdeithasol Cymru (GCC) yn ystod tymor yr hydref i ystyried eu strategaeth ar y cyd, Cymru Iachach: ein strategaeth gweithlu ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol.

 

Er mwyn llywio'r sesiwn dystiolaeth lafar gydag AaGIC a GCC, ac unrhyw waith pellach y gallai'r Pwyllgor ddymuno ei wneud mewn perthynas â'r gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol, byddem yn ddiolchgar pe gallech rannu eich barn ynghylch y canlynol:

 

1.       Y cynlluniau ar gyfer gweithredu Cymru iachach: ein strategaeth gweithlu ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol (a gyhoeddwyd ym mis Hydref 2020), gan gynnwys y cynnydd a wnaed hyd yma ac a yw'r gwaith o gyflawni ar y trywydd iawn ar gyfer 2030.

 

2.       Aliniad y strategaeth a’r modd y caiff ei gweithredu â blaenoriaethau a chamau gweithredu eraill, gan gynnwys y rhai a nodwyd yn Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru ar gyfer 2021-2026, a Cymru Iachach: ein Cynllun ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol (2018).

 

3.       Y graddau y bydd strategaeth gweithlu AaGIC/GCC a gwaith ehangach ar gynllunio'r gweithlu a chomisiynu/darparu addysg a hyfforddiant yn sicrhau bod gennym weithlu iechyd a gofal cymdeithasol sy'n gallu diwallu anghenion iechyd a gofal y boblogaeth, a chefnogi modelau gofal a ffyrdd newydd o weithio, gan gynnwys gwneud y defnydd gorau posibl o dechnoleg ddigidol a datblygu gwasanaethau Cymraeg.

 

4.       Y mecanweithiau, y dangosyddion a'r data a ddefnyddir i fesur cynnydd o ran gweithredu strategaeth y gweithlu a gwerthuso ei heffeithiolrwydd.

 

5.       A yw'r adnoddau ariannol ac adnoddau eraill a ddyrennir i weithredu'r strategaeth yn ddigonol.

 

6.       I ba raddau y mae'r strategaeth a'r modd y caiff ei gweithredu yn gynhwysol, yn adlewyrchu anghenion/cyfraniad y gweithlu cyfan—er enghraifft, ar sail proffesiwn, cam gyrfa neu nodweddion gwarchodedig—a hefyd a yw’n  ystyried rôl gofalwyr a gwirfoddolwyr di-dâl.

 

7.       A oes unrhyw feysydd penodol o fewn y strategaeth a fyddai'n elwa o waith dilynol â ffocws gan y Pwyllgor.

 

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyniadau yw dydd Gwener 8 Hydref.

 

Ynghyd â'ch cyflwyniad, dylech ddarparu'r wybodaeth a ganlyn:

 

  • Eich enw a’ch manylion cyswllt fel y person neu’r sefydliad sy’n cyflwyno’r dystiolaeth.
  • A yw eich tystiolaeth yn cael ei chyflwyno gan unigolyn neu ar ran sefydliad.
  • Os ydych yn cyflwyno tystiolaeth fel unigolyn, cadarnhad eich bod dros 18 oed.
  • Os ydych o dan 13 oed, cytundeb eich rhiant neu warcheidwad y gallwch gymryd rhan (gellir darparu hyn drwy e-bost).
  • Cadarnhad a fyddai'n well gennych i’ch enw beidio â chael ei gyhoeddi ochr yn ochr â'ch tystiolaeth (ni fydd enwau unigolion o dan 18 oed yn cael eu cyhoeddi).
  • A hoffech i’r pwyllgor drin eich holl dystiolaeth ysgrifenedig, neu unrhyw ran ohoni, yn gyfrinachol, gyda rhesymau dros y cais.
  • Os ydych wedi cyfeirio at drydydd parti yn eich tystiolaeth, fel rhiant, priod neu berthynas, cadarnhad eu bod wedi cytuno y gallwch rannu gwybodaeth y gellir ei defnyddio i'w hadnabod a'u bod yn deall y caiff ei chyhoeddi.

 

Sut i rannu eich barn

I rannu eich barn yn electronig, anfonwch neges e-bost at SeneddIechyd@senedd.cymru, neu drwy'r post at y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Senedd Cymru, Caerdydd, CF99 1SN.

 

 

Cyflwyno Tystiolaeth Ysgrifenedig

Mae gan y Senedd ddwy iaith swyddogol, sef Cymraeg a Saesneg.

 

Yn unol â Chynllun Ieithoedd Swyddogol y Senedd, mae'r Pwyllgor yn gofyn i ddogfennau neu ymatebion ysgrifenedig i ymgynghoriadau y bwriedir eu cyhoeddi neu eu defnyddio yn nhrafodion y Senedd gael eu cyflwyno yn ddwyieithog. Pan na chaiff dogfennau neu ymatebion ysgrifenedig eu cyflwyno yn ddwyieithog, byddwn yn cyhoeddi yn yr iaith a gyflwynwyd, gan ddweud eu bod wedi dod i law yn yr iaith honno'n unig.

 

Rydym yn disgwyl i sefydliadau eraill weithredu eu safonau neu eu cynlluniau eu hunain a chydymffurfio â'u rhwymedigaethau statudol.

 

Gweler y canllawiau ar gyfer y sawl sy’n cyflwyno tystiolaeth I bwyllgor.

 

Datgelu gwybodaeth

Gwnewch yn saff eich bod wedi ystyried polisi’r Senedd o ran datgelu gwybodaeth cyn cyflwyno gwybodaeth i’r Pwyllgor.

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Email: SeneddIechyd@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565