Ymgynghoriad

Rheoliadau Llygredd Amaethyddol

Ymateb i'r ymgynghoriad

Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

Casglodd Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig farn ar reoliadau llygredd amaethyddol Llywodraeth Cymru.

 

Cyflwynodd Llywodraeth Cymru reoliadau newydd i reoli llygredd amaethyddol ym mis Ionawr 2021. Daeth Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021 i rym ym mis Ebrill, a dynodwyd Cymru gyfan yn Barth Perygl Nitradau, sy'n golygu bod yn rhaid i ffermwyr ledled Cymru gydymffurfio â rheolau ar ddefnyddio nitradau (slyri a gwrtaith) ar eu tir. Yn flaenorol, dim ond 2.4% o arwynebedd tir Cymru a ddynodwyd yn Barth Perygl Nitradau. Ym mis Mehefin pleidleisiodd y Senedd i alw ar bwyllgor perthnasol yn y Senedd i adolygu'r rheoliadau ar frys.

 

Gofynnodd y Pwyllgor am farn ar unrhyw un neu'r holl faterion a drafodir yn y cylch gorchwyl, ac yn enwedig ar y cwestiynau canlynol:

>>>> 

>>>yr agweddau cadarnhaol ar y dull Cymru gyfan cyfredol;

>>>yr agweddau negyddol ar y dull Cymru gyfan cyfredol;

>>>y broses ar gyfer datblygu'r dull cyfredol;

>>>y dewisiadau amgen i'r dull cyfredol; a

>>>pe bai dull Cymru gyfan yn cael ei gadw, sut y gellid gwella'r dull cyfredol.

<<<< 

 

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno barn i'r ymarfer hwn oedd 10 Medi 2021.

 

Er eglurder, nid oedd ffurflen ddynodedig ar gyfer cyflwyniadau.

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Email: SeneddEconomi@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565