Ymgynghoriad

Y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol: blaenoriaethau ar gyfer y Chweched Senedd

Ymateb i'r ymgynghoriad

Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

Sefydlwyd Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol y Senedd ar 23 Mehefin 2021 i archwilio deddfwriaeth a dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif trwy graffu ar ei materion o ran gwariant, gweinyddiaeth a pholisi, yn cwmpasu'r meysydd a ganlyn (ond heb fod yn gyfyngedig iddynt): y Gymraeg, diwylliant; y celfyddydau; yr amgylchedd hanesyddol; cyfathrebu, darlledu; y cyfryngau, chwaraeon a chysylltiadau rhyngwladol.

 

Wrth i ni fwrw ymlaen â gwaith y pwyllgor, hoffem glywed gennych os ydych chi’n gweithio mewn unrhyw un o’r meysydd hyn. Gallwch ysgrifennu atom a rhoi gwybod i ni:

 

>>>> 

>>>Beth yw effaith pandemig COVID-19 ar hyn o bryd, a pha gymorth ychwanegol sydd ei angen gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i liniaru effaith y pandemig a galluogi adferiad yn dilyn y pandemig?

>>>Pa faterion ddylai’r pwyllgor eu blaenoriaethu wrth gynllunio ein rhaglen waith ar gyfer y tymor byr a’r tymor hir?

>>>Sut mae Brexit a’r berthynas newydd rhwng y DU a’r UE yn effeithio arnoch chi a’ch sefydliad? Pa gymorth ydych chi wedi’i gael i ymateb i’r newidiadau? Pa gymorth pellach, os o gwbl, sydd ei angen gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU?

<<< 

 

Caiff eich ymateb ei ddefnyddio i lywio ein blaenraglen waith tymor hir a’n gwaith mwy uniongyrchol o graffu ar Lywodraeth Cymru.

 

Os ydych yn dymuno gweld eich sylwadau yn llywio'r gwaith craffu yr ydym yn ei gynllunio ar gyfer Gweinidogion Cymru yn fuan yn nhymor yr hydref, dylech sicrhau eich bod yn eu hanfon atom erbyn 3 Medi 2021.

 

Byddwn yn ystyried unrhyw ymatebion a ddaw i law wedi’r dyddiad hwn wrth gynllunio ein blaenraglen waith.

 

Cyflwyno Tystiolaeth Ysgrifenedig

Mae gan y Senedd ddwy iaith swyddogol, sef Cymraeg a Saesneg.

 

Yn unol â Chynllun Ieithoedd Swyddogol y Senedd, mae'r Pwyllgor yn gofyn i ddogfennau neu ymatebion ysgrifenedig i ymgynghoriadau y bwriedir eu cyhoeddi neu eu defnyddio yn nhrafodion y Senedd gael eu cyflwyno yn ddwyieithog. Pan na chaiff dogfennau neu ymatebion ysgrifenedig eu cyflwyno yn ddwyieithog, byddwn yn cyhoeddi yn yr iaith a gyflwynwyd, gan ddweud eu bod wedi dod i law yn yr iaith honno'n unig.

 

Rydym yn disgwyl i sefydliadau eraill weithredu eu safonau neu eu cynlluniau eu hunain a chydymffurfio â'u rhwymedigaethau statudol.

 

Gweler y canllawiau ar gyfer y sawl sy’n cyflwyno tystiolaeth I bwyllgor.

 

Datgelu gwybodaeth

Gwnewch yn saff eich bod wedi ystyried polisi’r Senedd o ran datgelu gwybodaeth cyn cyflwyno gwybodaeth i’r Pwyllgor.

Dogfennau ategol

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Email: SeneddCulture@senedd.wales
Ffôn: 0300 200 6565