Ymgynghoriad

Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Blaenoriaethau ar gyfer y Chweched Senedd

Ymateb i'r ymgynghoriad

Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

Pwrpas yr Ymgynghoriad

Sefydlwyd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol gan y Senedd i graffu ar bolisi a deddfwriaeth, ac i ddwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif mewn meysydd penodol. Mae’r rhain yn cynnwys iechyd corfforol, iechyd meddwl, iechyd y cyhoedd a llesiant pobl Cymru, gan gynnwys y system gofal cymdeithasol.

 

Yn ystod hydref 2021, bydd y Pwyllgor yn ystyried ei ddull strategol a'i flaenraglen waith. Er mwyn sicrhau ein bod yn gallu ystyried y materion sydd, yn eich barn chi, o’r pwys mwyaf, hoffem ichi rannu eich barn ar:

 

·         Y blaenoriaethau cychwynnol ar gyfer y Chweched Senedd a nodwyd gan y Pwyllgor

o   Iechyd y cyhoedd a gwaith ataliol

o   Y gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol, gan gynnwys diwylliant sefydliadol a llesiant staff

o   Mynediad at wasanaethau iechyd meddwl

o   Arloesi ar sail tystiolaeth ym maes iechyd a gofal cymdeithasol

o   Cymorth a gwasanaethau i ofalwyr di-dâl

o   Mynediad at wasanaethau adsefydlu i’r rhai sydd wedi cael COVID ac i eraill

o   Mynediad at wasanaethau ar gyfer cyflyrau cronig tymor hir, gan gynnwys cyflyrau cyhyrysgerbydol

·         Pa flaenoriaethau allweddol y dylai'r Pwyllgor eu hystyried yn ystod y Chweched Senedd mewn perthynas â: gwasanaethau iechyd, gofal cymdeithasol a gofalwyr, ac adferiad COVID.

 

Sut I rannu eich barn

I rannu eich barn, llenwch y ffurflen hon a'i hanfon erbyn 16.00 ddydd Gwener 17 Medi 2021 at SeneddIechyd@senedd.cymru, neu drwy'r post at:

Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol,

Senedd Cymru,

Caerdydd,

CF99 1SN.

 

Cyflwyno Tystiolaeth Ysgrifenedig

Mae gan y Senedd ddwy iaith swyddogol, sef Cymraeg a Saesneg.

 

Yn unol â Chynllun Ieithoedd Swyddogol y Senedd, mae'r Pwyllgor yn gofyn i ddogfennau neu ymatebion ysgrifenedig i ymgynghoriadau y bwriedir eu cyhoeddi neu eu defnyddio yn nhrafodion y Senedd gael eu cyflwyno yn ddwyieithog. Pan na chaiff dogfennau neu ymatebion ysgrifenedig eu cyflwyno yn ddwyieithog, byddwn yn cyhoeddi yn yr iaith a gyflwynwyd, gan ddweud eu bod wedi dod i law yn yr iaith honno'n unig.

 

Rydym yn disgwyl i sefydliadau eraill weithredu eu safonau neu eu cynlluniau eu hunain a chydymffurfio â'u rhwymedigaethau statudol.

 

Gweler y canllawiau ar gyfer y sawl sy’n cyflwyno tystiolaeth I bwyllgor.

 

Datgelu gwybodaeth

Gwnewch yn saff eich bod wedi ystyried polisi’r Senedd o ran datgelu gwybodaeth cyn cyflwyno gwybodaeth i’r Pwyllgor.

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Email: SeneddIechyd@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565