Ymgynghoriad

Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru)

Diben yr ymgynghoriad

Mae’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn cynnal ymchwiliad i egwyddorion cyffredinol y Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) (‘y Bil’).

 

Diben y Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) yw sefydlu fframwaith deddfwriaethol newydd a diwygiedig i roi’r cwricwlwm a’r trefniadau asesu newydd ar waith yng Nghymru. 

 

Mae rhagor o fanylion am y Bil i'w gweld yn y Memorandwm Esboniadol sy'n cyd-fynd ag ef.

 

Mae crynodeb o'r Bil ar gael a hefyd rhestr termau sy'n rhestru geiriau allweddol yn y Bil.

 

Cylch Gorchwyl
Ystyried:

  • egwyddorion cyffredinol y Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) ac a oes angen deddfwriaeth i gyflawni'r amcanion polisi a nodir yn y Bil;
  • unrhyw rwystrau posibl i roi'r darpariaethau hyn ar waith ac a yw'r Bil yn eu hystyried;
  • unrhyw oblygiadau posibl o weithredu darpariaethau'r Bil tra bod sectorau perthnasol yn ymdrin â chanlyniadau pandemig Covid-19;
  • a oes unrhyw ganlyniadau anfwriadol yn deillio o'r Bil;
  • goblygiadau ariannol y Bil (fel y nodir yn Rhan 2 o’r Memorandwm Esboniadol); a
  • priodoldeb y pwerau yn y Bil i Weinidogion Cymru wneud is-ddeddfwriaeth (fel y nodir yn Rhan 1: Pennod 5 o’r Memorandwm Esboniadol).

 

 

 

Rhestrir y dystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i'r ymgynghoriad hwn isod. Mae unrhyw ymatebion a gyflwynwyd, nad ydynt wedi'u cwblhau neu a ddifethwyd, wedi'u nodi fel rhai annilys.

Dogfennau ategol

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Email: SeneddPPIA@Senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565