Ymgynghoriad

Ymadael â’r Undeb Ewropeaidd: Paratoadau yng Nghymru ar gyfer diwedd y cyfnod pontio

Diben yr ymgynghoriad

Casglu tystiolaeth:

 

Yn unol â’i gylch gwaith i ystyried sut y bydd penderfyniad y Deyrnas Unedig i adael yr Undeb Ewropeaidd yn effeithio ar Gymru, cynhaliodd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ymchwiliad i’r paratoadau yng Nghymru ar gyfer diwedd y cyfnod pontio (31 Rhagfyr 2020).

 

Nod y Pwyllgor wrth ymgymryd â'r gwaith hwn oedd cryfhau’r paratoadau yng Nghymru ar gyfer diwedd y cyfnod pontio drwy graffu ar waith Llywodraeth Cymru, ymgysylltu â rhanddeiliaid, a thynnu sylw at faterion sy'n ymwneud yn benodol â Chymru.

 

Roedd y gwaith hwn yn ymwneud â’r canlynol:

 

  • yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i baratoi Cymru ar gyfer diwedd y cyfnod pontio.
  • paratoadau’r prif sectorau economaidd yng Nghymru;
  • effaith y trafodaethau ynghylch cytundebau rhyngwladol y DU ar y paratoadau, gan gynnwys y cytundeb (neu’r cytundebau) ar y berthynas rhwng y DU a'r UE yn y dyfodol, cytundebau masnach rydd arwyddocaol eraill (ee y DU-UDA, y DU-Japan, y DU-Awstralia, y DU-Seland Newydd etc.), a'r rhaglen Trafod a Chydgysylltu Parhad Masnach Masnach (y cyfeiriwyd ati gynt fel y Rhaglen Parhad Cytundebau Masnach); a
  • chytundebau rhynglywodraethol o fewn y DU yn ymwneud â diwedd y cyfnod pontio, gan gynnwys y rhaglen fframweithiau cyffredin.

 

Nid oedd y rhestr hon yn gynhwysfawr, a gwnaethom ofyn am safbwyntiau ar unrhyw agwedd ar ymadawiad y DU â’r Undeb Ewropeaidd a oedd yn effeithio ar sefydliad neu sector.

 

 

Datgelu gwybodaeth

 

Gofynnwyd i’r ymatebwyr sicrhau eu bod wedi ystyried polisi'r Senedd ar ddatgelu gwybodaeth cyn cyflwyno gwybodaeth i'r Pwyllgor.

Dogfennau ategol