Ymgynghoriad

Ymchwiliad i’r achosion o COVID-19 ac effaith y feirws ar ddiwylliant, y diwydiannau creadigol, treftadaeth, cyfathrebu a chwaraeon

Diben yr ymgynghoriad

Mae’r ymgynghoriad hwn wedi dod i ben.

 

Bydd yr ymchwiliad yn ystyried effaith yr achosion, ac effaith rheoli’r achosion ar sectorau sy’n rhan o gylch gwaith y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu, gan gynnwys:

 

  • diwylliant a’r diwydiannau creadigol;
  • treftadaeth;
  • y cyfryngau cenedlaethol a chymunedol, gan gynnwys radio cymunedol;
  • newyddiaduraeth; ac,
  • at ddibenion yr ymchwiliad hwn, byddwn hefyd yn edrych ar chwaraeon ar lefel lawr gwlad ac elitaidd.

 

Bydd y Pwyllgor yn edrych yn fanwl ar yr ymateb gan Lywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus perthnasol. Bydd hefyd yn ystyried ymateb Cymru yng nghyd-destun ehangach y DU.

 

Mae’r Pwyllgor yn awyddus i glywed gan unrhyw un sydd â diddordeb yn yr ymchwiliad hwn.

 

Yn ogystal â gofyn am farn yn ysgrifenedig, byddwn hefyd yn cynnal rhaglen gasglu tystiolaeth lafar rithwir. Cyhoeddir manylion llawn y sesiynau hyn ar ein gwefan pan fyddant yn derfynol.

 

Yn benodol, mae gan y Pwyllgor ddiddordeb mewn darganfod:

 

  • Beth fu effaith uniongyrchol Covid-19 ar y sector?
  • Pa mor effeithiol y mae’r gefnogaeth a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU a chyrff hyd braich wedi mynd i’r afael ag anghenion y sector?
  • Beth fydd effeithiau hirdymor tebygol Covid-19 ar y sector, a pha gefnogaeth sydd ei hangen i ymdrin â’r rheini?
  • Pa wersi y gellir eu dysgu o’r ffordd y mae Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU, cyrff hyd braich a’r sector wedi ymdrin â Covid-19?
  • Sut mae modd i’r sector esblygu ar ôl Covid-19, a sut y gall Llywodraeth Cymru gefnogi arloesedd o’r fath i ymdrin â heriau yn y dyfodol?

 

Sut i ymateb:

O gofio’r amgylchiadau presennol, nid ydym yn gofyn am ymateb hir. Rhannwch yr hyn y gallwch chi, a byddwn yn cysylltu â chi os bydd angen rhagor o wybodaeth arnom.

 

Nid oes dim dyddiad cau penodol ichi gyflwyno’ch barn. Gofynnwn ichi roi eich barn i ni cyn gynted ag y gallwch, fel y gallwn fynd ar drywydd pethau mewn ffordd mor amserol â phosibl. Mae croeso i chi hefyd gyflwyno mwy nag un darn o dystiolaeth os daw rhagor o wybodaeth ar gael wrth i’r ymchwiliad fynd yn ei flaen.

 

Anfonwch eich barn at seneddDGCh@senedd.cymru

 

Cyflwyno Tystiolaeth Ysgrifenedig

Mae gan Senedd ddwy iaith swyddogol, sef Cymraeg a Saesneg.

 

Yn unol â Chynllun Ieithoedd Swyddogol y Senedd, mae'r Pwyllgor yn gofyn i ddogfennau neu ymatebion ysgrifenedig i ymgynghoriadau y bwriedir eu cyhoeddi neu eu defnyddio yn nhrafodion y Cynulliad Cenedlaethol gael eu cyflwyno yn ddwyieithog. Pan na chaiff dogfennau neu ymatebion ysgrifenedig eu cyflwyno yn ddwyieithog, byddwn yn cyhoeddi yn yr iaith a gyflwynwyd, gan ddweud eu bod wedi dod i law yn yr iaith honno'n unig.

 

Rydym yn disgwyl i sefydliadau eraill weithredu eu safonau neu eu cynlluniau eu hunain a chydymffurfio â'u rhwymedigaethau statudol.

 

Gweler y canllawiau ar gyfer y sawl sy’n cyflwyno tystiolaeth I bwyllgor.

 

Datgelu gwybodaeth

Gwnewch yn saff eich bod wedi ystyried polisi’r Senedd o ran datgelu gwybodaeth cyn cyflwyno gwybodaeth i’r Pwyllgor.

Dogfennau ategol

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Email: SeneddDGCh@@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565