Ymgynghoriad

Craffu ar Covid-19 a'i effaith ar blant a phobl ifanc (gan gynnwys myfyrwyr mewn addysg bellach ac uwch)

Diben yr ymgynghoriad

Bu’r  Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn edrych sut mae’r achosion o COVID-19 wedi effeithio ar bob agwedd ar fywyd i blant a phobl ifanc (gan gynnwys myfyrwyr mewn addysg bellach ac addysg uwch).

 

Roedd fersiwn addas i blant o’r alwad am farn ar gael.

 

Gwnaethom ystyried effaith yr achosion o’r feirws a sut yr oedd yn cael ei reoli ar iechyd a lles corfforol a meddyliol plant a phobl ifanc, eu haddysg a'u gofal cymdeithasol. Ystyriwyd hefyd sut roedd Llywodraeth Cymru a'r cyrff cyhoeddus sy’n gysylltiedig â hi yn ymdrin â'r sefyllfa a'i heffaith ar sectorau a phroffesiynau perthnasol.

 

Roeddem yn awyddus i glywed barn pawb sy'n ymwneud â chefnogi plant a phobl ifanc ar draws sectorau, gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, addysg, iechyd, gofal cymdeithasol a gwaith ieuenctid. Gwnaethom hefyd ymgysylltu'n uniongyrchol â phlant a phobl ifanc i sicrhau bod eu barn yn flaenllaw yn ein gwaith craffu.

 

Yn ogystal â chasglu barn y cyhoedd, gwnaethom gynnal cyfres o sesiynau tystiolaeth. A ninnau’n gorfod ystyried y pwysau yr oedd gwasanaethau cyhoeddus yn ei wynebu, gwnaethom hefyd ddefnyddio dulliau casglu tystiolaeth eraill.

 

Roedd y Pwyllgor yn awyddus i ystyried effaith Covid-19, a'r camau a fabwysiadwyd i reoli'r pandemig, ar y meysydd a ganlyn:

 

  • Iechyd corfforol ac iechyd meddwl plant a phobl ifanc.
  • Plant agored i niwed a difreintiedig (gan gynnwys disgyblion ag anghenion addysgol arbennig ac anableddau, plant mewn angen, plant sy'n derbyn gofal a phlant sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim).
  • Gwasanaethau plant, gan gynnwys gofal cymdeithasol a diogelu.
  • Addysg a gofal plant yn y blynyddoedd cynnar, gan gynnwys yr effaith ar y farchnad gofal plant a datblygiad yn ystod plentyndod.
  • Addysg ysgol statudol, gan gynnwys y trefniadau ar gyfer dysgu o bell, dilyniant dysgu, yr effaith ar ddeilliannau addysgol a gweithredu'r polisi gweithwyr critigol.
  • Arholiadau a chymwysterau (gan gynnwys cymwysterau galwedigaethol).
  • Addysg uwch ac addysg bellach, gan gynnwys cynaliadwyedd ariannol y sector, effaith newidiadau i gyrsiau, llety myfyrwyr a gwasanaethau eraill i fyfyrwyr, ac effaith hyn ar hawliau cyfreithiol myfyrwyr.
  • Cymorth ariannol i fyfyrwyr gan gynnwys yr effaith ar fyfyrwyr sydd wedi colli gwaith rhan-amser.
  • Gwaith ieuenctid.
  • Y cymorth sydd ar gael i'r gweithlu, gan gynnwys y canlynol, ond heb fod yn gyfyngedig iddynt: iechyd, gofal cymdeithasol, addysg, gwasanaethau plant a gweithwyr ieuenctid.
  • Rhieni a gofalwyr.
  • Hawliau plant.

 

 

Dogfennau ategol

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Email: SeneddPPIA@Senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565