Ymgynghoriad

Ymchwiliad i effaith Covid-19, a'r modd y mae'n cael ei reoli, ar iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru

Diben yr ymgynghoriad

Cynhaliodd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon ymchwiliad i effaith Covid-19, a'r modd y mae'n cael ei reoli, ar iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.

 

Ystyriodd yr ymchwiliad effaith yr argyfwng, a'r modd y mae’n cael ei reoli, ar wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Fel rhan o hyn, ystyriodd y Pwyllgor ymateb Llywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus perthnasol, yn ogystal ag ystyried yr effaith ar staff, cleifion ac eraill sy’n cael gofal neu driniaeth mewn lleoliadau clinigol a'r gymuned. Ystyriodd hefyd ymateb Cymru yng nghyd-destun ehangach y DU.

 

Ymateb i'r alwad am safbwyntiau

 

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno sylwadau oedd dydd Gwener 19 Mawrth 2021  

 

Sut y byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth

Fel mater o drefn, rydym yn cyhoeddi'r holl safbwyntiau rydym yn eu cael.

Yn achos y rhai sy'n cyflwyno sylwadau fel unigolion preifat, byddwn yn cyhoeddi eu sylwadau yn ddienw. Bydd enwau a rolau'r rhai sy'n cyflwyno sylwadau yn rhinwedd eu rôl broffesiynol yn cael eu cyhoeddi, ynghyd ag enwau sefydliadau sy’n cyflwyno gwybodaeth. Efallai y byddwn yn dileu unrhyw ddata personol o'r fersiwn o'ch tystiolaeth a gyhoeddir os ydym o'r farn y gellir eu defnyddio i'ch adnabod chi neu drydydd parti yn bersonol; a/neu os byddwn yn cytuno i wneud hynny mewn ymateb i gais gennych chi.

Gwnewch yn siŵr eich bod wedi ystyried ein polisi ar ddatgelu gwybodaeth cyn anfon gwybodaeth atom, ac mae croeso i chi gysylltu â ni os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon.

Iaith

Rydym yn gweithio mewn dwy iaith swyddogol, Cymraeg a Saesneg. Gallwch gyflwyno’ch sylwadau yn y naill iaith neu'r llall (neu'r ddwy iaith os yw safonau neu gynlluniau eich sefydliad yn gofyn i chi wneud hynny), yn unol â'n Cynllun Ieithoedd Swyddogol. Byddwn yn cyhoeddi sylwadau yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi, gan ddweud eu bod wedi dod i law yn yr iaith honno’n unig.

 

Achosion unigol

Er y bydd yr holl safbwyntiau a gyflwynir yn ein helpu i graffu ar Covid-19 a'i effaith, ni allwn roi cyngor ynghylch achosion unigol, na mynd i’r afael â hwy. Fodd bynnag, gallwch gael cymorth gan eich cynrychiolwyr lleol a gallwch ddod o hyd i'w manylion ar ein gwefan.

 

Ar yr adeg anodd hon, bydd gan bobl lawer o gwestiynau am y coronafeirws mewn cysylltiad ag iechyd a gofal cymdeithasol, hawliau cyflogaeth, budd-daliadau, cymorth busnes, teithio, bwyd, manwerthu, digwyddiadau a ganslwyd, addysg a llawer mwy. Gall Blog Ymchwil y Senedd eich cyfeirio at y wybodaeth a’r canllawiau diweddaraf o ffynonellau swyddogol a chyfrifol.

 

Rydym wrthi'n gweithio drwy'r ymatebion a gafwyd hyd yma, a byddwn yn eu cyhoeddi'n rheolaidd. Os ydych wedi ymateb ond wedi sylwi nad yw eich ymateb wedi ymddangos eto, gallwn eich sicrhau ein bod yn gweithio arno ar hyn o bryd

Dogfennau ategol

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Email: SeneddIechyd@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565