Ymgynghoriad

Ymgynghoriad ar y Penderfyniad drafft ar gyfer y Chweched Cynulliad

Diben yr ymgynghoriad

Mae'r Bwrdd Taliadau annibynnol wedi cyhoeddi cynigion mewn perthynas â’r Penderfyniad ar gyfer y Chweched Cynulliad. Y cynigion yw cam olaf adolygiad cynhwysfawr y Bwrdd o’r tâl a’r cymorth ariannol sydd ar gael i Aelodau.

 

Nid yw'r cynigion yn cynnwys unrhyw gynnydd yn y cyflog sylfaenol ar gyfer Aelodau, heblaw mynegeio blynyddol yn unol â'r trefniadau cyfredol a newidiadau sydd â'r nod o leihau rhwystrau i sefyll ar gyfer etholiad, gan gynnwys trefniadau ar gyfer cymorth ychwanegol i Aelodau ar absenoldeb rhiant.

 

Gellir lawrlwytho’r Penderfyniad drafft a’r ddogfen ymgynghori yma: http://www.bwrddtaliadau.cymru/ymgynghoriadau-syn-dal-i-fynd-rhagddynt/

 

Mae'r Bwrdd yn gofyn am farn ar y cynigion hyn erbyn 24 Mawrth 2020.

 

Datgelu gwybodaeth 

Sicrhewch eich bod wedi ystyried sut y bydd y Bwrdd yn defnyddio'ch gwybodaeth cyn cyflwyno gwybodaeth i'r Bwrdd. Nodir hyn yn y ddogfen ymgynghori.

Dogfennau ategol

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Y Bwrdd Taliadau
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Email: Taliadau@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565