Ymgynghoriad
Ymchwiliad i Ansawdd Aer
- Mae’r ymgynghoriad hwn wedi dod i ben. Cynhaliwyd yr ymgynghoriad rhwng Dydd Gwener, 2 Hydref 2020 a Dydd Gwener, 20 Tachwedd 2020
- Gwybodaeth gefndir i'r ymgynghoriad
- Gweld yr holl ymgynghoriadau presennol
Ymateb i'r ymgynghoriad
Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad
- AQ 01 Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant (Saesneg yn unig)
PDF 148 KB Gweld fel HTML (1) 19 KB
- AQ 02 Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (Saesneg yn unig)
PDF 50 KB Gweld fel HTML (2) 22 KB
- AQ 03 Ffederasiwn Busnesau Bach (Saesneg yn unig)
PDF 187 KB Gweld fel HTML (3) 44 KB
- AQ 04 Cyfoeth Naturiol Cymru (Saesneg yn unig)
PDF 101 KB Gweld fel HTML (4) 38 KB
- AQ 05 Gweithgor Cymdeithas Cyfraith Amgylcheddol y DU yng Nghymru (Saesneg yn unig)
PDF 144 KB Gweld fel HTML (5) 34 KB
- AQ 06 Cyswllt Amgylchedd Cymru (Saesneg yn unig)
PDF 200 KB Gweld fel HTML (6) 30 KB
- AQ 07 Cyfarwyddwyr Diogelu'r Cyhoedd (Cymru) (Saesneg yn unig)
PDF 95 KB Gweld fel HTML (7) 32 KB
- AQ 08 Coed Cadw (Saesneg yn unig)
PDF 696 KB Gweld fel HTML (8) 91 KB
- AQ 09 Plantlife Cymru (Saesneg yn unig)
PDF 276 KB Gweld fel HTML (9) 35 KB
- AQ 10 Coleg Brenhinol y Meddygon
PDF 425 KB Gweld fel HTML (10) 61 KB
- AQ 11 Y Gymdeithas Cludiant Ffyrdd (Saesneg yn unig)
PDF 315 KB Gweld fel HTML (11) 36 KB
- AQ 12 Ymddiriedolaethau Natur Cymru (Saesneg yn unig)
PDF 1 MB Gweld fel HTML (12) 218 KB
- AQ 13 British Heart Foundation (1) (Saesneg yn unig)
PDF 208 KB Gweld fel HTML (13) 43 KB
- AQ 15 British Heart Foundation Cymru (2) (Saesneg yn unig)
PDF 181 KB
Diben yr ymgynghoriad
Roedd y Pwyllgor
Newid Hinsawdd, Ynni a Materion Gwledig (‘Y Pwyllgor) wedi bwriadu cynnal
ymchwiliad i ansawdd aer.
Yn anffodus, cafodd gwaith ar yr ymchwiliad hwn ei atal
ym mis Ebrill 2020 i alluogi'r Pwyllgor i ganolbwyntio ei waith ar effaith
pandemig Covid-19. Hoffai’r Pwyllgor ddiolch i bawb sydd wedi rhoi o’u hamser i
gyfrannu eu safbwyntiau i’r ymchwiliad hwn.
Roedd y gwaith hwn yn cyd-fynd ag ymgynghoriad
Llywodraeth Cymru, Cynllun
Aer Glân i Gymru – Awyr Iach, Cymru Iach. Y bwriad oedd i allbwn ymchwiliad
y Pwyllgor lywio datblygiad cynigion deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar gyfer
Deddf Aer Glân i Gymru, y disgwylid iddi gael ei chyhoeddi cyn diwedd tymor y
Senedd hwn.
Gofynnodd y Pwyllgor am sylwadau ar gynigion
deddfwriaethol Llywodraeth Cymru a oedd yn ymwneud ag aer glân, fel yr
amlinellwyd yn yr ymgynghoriad, Cynllun
Aer Glân i Gymru – Awyr Iach, Cymru Iach, gan gynnwys:
- Pa fylchau neu faterion rheoliadol y bydd angen mynd i’r afael â nhw
ar ôl i’r DU ymadael â’r UE? Sut y dylid mynd i'r afael â'r rhain a beth
fydd y prif heriau?
- A yw cynigion Llywodraeth Cymru ar gyfer Deddf Aer Glân yn briodol?
Sut y gellir eu gwella? Beth y gellir ei ddysgu o ddulliau deddfwriaethol
mewn mannau eraill?
- Beth yw eich barn am y cynigion rheoliadol mewn perthynas â'r drefn
Rheoli Ansawdd Aer Lleol? Beth yw'r prif heriau mewn perthynas â'r dull a
awgrymwyd?
- Beth yw eich barn ar y cynigion rheoliadol sy'n ymwneud â hylosgi
domestig (gan gynnwys tân gwyllt/coelcerthi), gadael injan cerbydau yn
troi’n segur a Pharthau Aer Glân/Parthau Allyriadau Isel?
- Beth yw'r prif heriau wrth gyflwyno fframwaith deddfwriaethol ar gyfer
ansawdd aer fel y nodir yn y ddogfen ymgynghori?
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os hoffech ragor o
wybodaeth, mae croeso i chi gysylltu â ni.
Datgelu
gwybodaeth
Sicrhewch eich bod wedi ystyried polisi’r
Senedd o ran datgelu gwybodaeth cyn cyflwyno gwybodaeth i’r Pwyllgor.
Manylion cyswllt
Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:
Y Pwyllgor Cyllid
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN
Email: SeneddCyllid@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565