Ymgynghoriad

Effaith amrywiadau mewn treth incwm genedlaethol ac is-genedlaethol

Ymateb i'r ymgynghoriad

Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

Ers mis Ebrill 2018, mae Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am rai o’r trethi sy’n cael eu talu yng Nghymru, gan gynnwys Cyfraddau Treth Incwm Cymru (WRIT) newydd a ddaeth i rym ym mis Ebrill 2019.

Cynhaliodd y Pwyllgor Cyllid ymchwiliad i effaith posibl gwahanol gyfraddau o dreth incwm ar draws ffin Cymru-Lloegr.

Cylch Gorchwyl:

  • Archwilio effeithiau amrywiadau treth incwm is-genedlaethol mewn systemau treth rhyngwladol ar ymddygiad enillwyr incwm isel, canolig ac uchel, yn enwedig ymfudo ac osgoi treth.
  • Deall sut y gall enillwyr incwm isel, canolig ac uchel ymateb i amrywiadau mewn cyfradd treth incwm ar gyfer pob band treth rhwng Cymru a Lloegr.
  • Deall lefel yr amrywiad mewn cyfraddau treth incwm a allai ysgogi newid ymddygiadol ymysg enillwyr isel, canolig ac uwch yng Nghymru a Lloegr.
  • Asesu effaith ariannol ar refeniw Cyfraddau Treth Incwm Cymru gyda lefelau amrywiol o amrywiad cyfradd treth.

 

Datgelu gwybodaeth

 

Gwnewch yn saff eich bod wedi ystyried polisi’r Cynulliad o ran datgelu gwybodaeth cyn cyflwyno gwybodaeth i’r Pwyllgor.

Dogfennau ategol

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Y Pwyllgor Cyllid
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Email: SeneddCyllid@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565