Croeso i wefan newydd y Senedd. Os ydych yn cael anhawster defnyddio'r wefan hon, cysylltwch a ni.
Ymgynghoriad
Hawliau plant yng Nghymru
- Mae’r ymgynghoriad hwn wedi dod i ben. Cynhaliwyd yr ymgynghoriad rhwng Dydd Mercher, 17 Gorffennaf 2019 a Dydd Gwener, 20 Medi 2019
- Gwybodaeth gefndir i'r ymgynghoriad
- Gweld yr holl ymgynghoriadau presennol
Ymateb i'r ymgynghoriad
Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad
- CRW 01 Unigolyn (Saesneg yn unig)
PDF 20 KB Gweld fel HTML (10) 8 KB
- CRW 02 Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth (Saesneg yn unig)
PDF 257 KB
- CRW 03 Y Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid (Saesneg yn unig)
PDF 69 KB Gweld fel HTML (12) 61 KB
- CRW 04 Arsyllfa ar Hawliau Dynol Plant (Saesneg yn unig)
PDF 115 KB Gweld fel HTML (13) 60 KB
- CRW 05 Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru
PDF 81 KB
- CRW 06 Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (Saesneg yn unig)
PDF 36 KB Gweld fel HTML (15) 19 KB
- CRW 07 Gofal Cymdeithasol Cymru
PDF 21 KB Gweld fel HTML (16) 9 KB
- CRW 08 Dyneiddwyr Cymru (Saesneg yn unig)
PDF 138 KB
- CRW 09 Estyn (Saesneg yn unig)
PDF 366 KB
- CRW 10 Chwarae Cymru
PDF 108 KB Gweld fel HTML (19) 40 KB
- CRW 11 Comisiynydd Plant Cymru
PDF 861 KB
- CRW 12 Clybiau Plant Cymru(Saesneg yn unig)
PDF 46 KB Gweld fel HTML (21) 20 KB
- CRW 13 Plant yng Nghymru (Saesneg yn unig)
PDF 30 KB Gweld fel HTML (22) 12 KB
- CRW 14 Grŵp Monitro CCUHP Cymru (Saesneg yn unig)
PDF 117 KB Gweld fel HTML (23) 75 KB
- CRW 15 Gweithredu ar Epilepsi (Saesneg yn unig)
PDF 61 KB Gweld fel HTML (24) 27 KB
- CRW 16 Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent (Saesneg yn unig)
PDF 41 KB Gweld fel HTML (25) 23 KB
- CRW 17 Ysbyty Arch Noa i Blant Cymru (Saesneg yn unig)
PDF 137 KB Gweld fel HTML (26) 65 KB
- CRW 18 Hafal (Saesneg yn unig)
PDF 544 KB
- CRW 18a Hafal
PDF 2 MB
- CRW 19 Barnardo's Cymru
PDF 95 KB
- CRW 20 Ysgolion Eglwys Llandaf: Ysgol Uwchradd Esgob Llandaf, Ysgol Gynradd Dinas Llandaf yr Eglwys yng Nghymru, ac Ysgol y Gadeirlan, Llandaf (Saesneg yn unig)
PDF 32 KB Gweld fel HTML (30) 30 KB
- CRW 21 Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan (Saesneg yn unig)
PDF 55 KB Gweld fel HTML (31) 21 KB
- CRW 22 Achub y Plant (Saesneg yn unig)
PDF 230 KB
- CRW 23 ProMo-Cymru (Saesneg yn unig)
PDF 48 KB Gweld fel HTML (33) 77 KB
- CRW 24 Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
PDF 156 KB
- CRW 25 Seicoleg gymunedol Gwent, Gwasanaeth Seicoleg a Therapïau i Blant a Theuluoedd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan (Saesneg yn unig)
PDF 401 KB
- CRW 26 Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (Saesneg yn unig)
PDF 101 KB Gweld fel HTML (36) 60 KB
- CRW 27 Llywodraeth Cymru
PDF 976 KB
Diben yr ymgynghoriad
Mae'r Pwyllgor
Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn cynnal ymchwiliad byr ar hawliau plant yng
Nghymru i adolygu effaith Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011. Bydd
yn ystyried:
- i ba raddau y mae Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011 wedi dylanwadu ar benderfyniadau
Llywodraeth Cymru, gan gynnwys ei dyraniadau ariannol a ph’un a yw wedi cyflawni
'mesurau cyffredinol' y Confensiwn o weithredu;
- tystiolaeth a yw'r Mesur wedi arwain at ganlyniadau gwell i blant a
phobl Ifanc;
- a yw'r dyletswyddau yn y Mesur wedi'u sefydlu'n effeithiol ar draws
polisi a phortffolios cabinet Llywodraeth Cymru;
- i ba raddau y mae Llywodraeth Cymru wedi ceisio sicrhau bod ei
ddyletswyddau o fewn y Mesur yn cael eu cyfleu yng ngwaith y cyrff
cyhoeddus y mae’n eu cyllido gan gynnwys awdurdodau lleol a chyrff y GIG;
- i ba raddau y mae Llywodraeth Cymru wedi gweithredu ei dyletswydd i
hyrwyddo gwybodaeth a dealltwriaeth o'r Confensiwn ymhlith y cyhoedd, gan
gynnwys plant a phobl ifanc;
- sut mae'r ddyletswydd i gael 'sylw dyledus' i'r Confensiwn ar
Hawliau'r Plentyn yn cael ei gweithredu'n ymarferol ac a yw Asesiadau o'r
Effaith ar Hawliau Plant yn cael eu defnyddio fel adnodd ystyrlon;
- effeithiolrwydd y Cynllun Hawliau Plant ac adroddiad cydymffurfio
diweddaraf Llywodraeth Cymru ac i ba raddau y maent yn dangos tystiolaeth
o weithredu digonol ar ran Llywodraeth Cymru i sicrhau bod y Mesur yn cael
ei weithredu'n llawn;
- pa mor effeithiol y mae Llywodraeth Cymru yn ymateb yn strategol i
Sylwadau Cloi Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn.
Daeth yr ymgynghoriad i ben ar
20 Medi 2019. Medi 2019.
Sut
y gall pobl ifanc gael dweud eu dweud yn yr ymchwiliad?
Fel rhan o'n
hymchwiliad, rydym wedi datblygu gweithgaredd ymgysylltu o'r enw "cyfarfod
mewn blwch". Pecyn adnoddau yw hwn sy'n galluogi plant a phobl ifanc i
rannu eu safbwyntiau ar hawliau plant; yna, cynhelir arolwg byr er mwyn
rhannu'r hyn a ddysgwyd a bwydo i mewn i'r ymchwiliad ehangach.
Rydym wedi creu
fideo byr i ymhelaethu am yr adnodd, sut y mae wedi cael ei ddefnyddio
ledled Cymru, a'r ffyrdd eraill y mae'r Pwyllgor wedi ymgysylltu â phlant a
phobl ifanc mewn perthynas â'i ymchwiliad i hawliau plant.
Cyflwyno Tystiolaeth Ysgrifenedig
Mae gan Senedd Cymru ddwy iaith swyddogol, Cymraeg a
Saesneg.
Yn unol â Chynllun
Ieithoedd Swyddogol Senedd Cymru, mae'r Pwyllgor yn gofyn am i ddogfennau
neu ymatebion ysgrifenedig i ymgynghoriadau gael eu cyflwyno'n ddwyieithog lle
y bwriedir eu cyhoeddi neu eu defnyddio yn nhrafodion Senedd Cymru. Pan na
chaiff dogfennau neu ymatebion ysgrifenedig eu cyflwyno yn ddwyieithog, byddwn
yn cyhoeddi yn yr iaith a gyflwynwyd, gan ddweud eu bod wedi dod i law yn yr
iaith honno'n unig.
Rydym yn disgwyl i sefydliadau eraill weithredu eu
safonau neu eu cynlluniau eu hunain a chydymffurfio â'u rhwymedigaethau
statudol.
Gweler y canllawiau
ar gyfer y sawl sy’n cyflwyno tystiolaeth I bwyllgor.
Datgelu gwybodaeth
Gwnewch yn siŵr eich bod wedi ystyried polisi
Senedd Cymru ar ddatgelu gwybodaeth cyn cyflwyno gwybodaeth i'r
Pwyllgor.
Dogfennau ategol
- Pecyn hwylusydd – gyda chyfarwyddiadau ar gyfer arweinydd y gweithgaredd
PDF 408 KB
- Gêm termau – paru teils
PDF 42 KB
- Posteri cwestiynau
PDF 266 KB
- Arwydd ar gyfer y blwch pleidleisio
PDF 30 KB
- Slipiau pleidleisio
PDF 93 KB
- Ffurflen adborth
PDF 98 KB
- Diogelu data
PDF 88 KB
- Chaniatâd ar gyfer lluniau
PDF 85 KB
- Cyfarfod mewn Blwch
PDF 95 KB
Manylion cyswllt
Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:
Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN
Email: SeneddPPIA@Senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565