Ymgynghoriad

Cynigion Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2020-21

Ymateb i'r ymgynghoriad

Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

Mae pwyllgorau Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn galw am wybodaeth i gynorthwyo gyda’r gwaith o graffu ar Gynigion Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2020-21. Mae gennym ddiddordeb mewn ymchwilio i’r disgwyliadau o ran cyllideb 2020-21, gan gynnwys parodrwydd ariannol ar gyfer blwyddyn 2020-21 ac effaith cyllideb 2019-20.

Nid ydym yn gwybod ar hyn o bryd beth fydd cynigion y gyllideb ddrafft, gan na fyddant yn cael eu cyhoeddi tan fis Rhagfyr 2019. Mae’r Pwyllgor Cyllid yn edrych ar gyllideb Llywodraeth Cymru o safbwynt strategol a chyffredinol. Rydym hefyd yn cydweithio â phwyllgorau eraill y Cynulliad i sicrhau y caiff cynigion ar gyfer adrannau neu bortffolios cabinet penodol eu hystyried yn fanwl. Bydd y pwyllgorau yn cynnal eu sesiynau eu hunain i ganolbwyntio ar dystiolaeth er mwyn edrych yn fanwl ar yr agweddau ar y gyllideb sydd o fewn eu cylchoedd gwaith hwy. 

Rydym yn gofyn am eich barn ar y cwestiynau penodol sydd yn y llythyr ymgynghori (PDF, 96KB), a gallwch ymateb i unrhyw un, neu bob un o’r rhain drwy e-bost (SeneddCyllid@Cynulliad.Cymru

Mae croeso i chi roi sylwadau mwy cyffredinol o ran y gyllideb ddrafft yn ogystal.

 

Datgelu gwybodaeth

Gwnewch yn saff eich bod wedi ystyried polisi’r Cynulliad o ran datgelu gwybodaeth cyn cyflwyno gwybodaeth i’r Pwyllgor.

Dogfennau ategol

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Y Pwyllgor Cyllid
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Email: SeneddCyllid@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565