Ymgynghoriad

Bil Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru)

Ymateb i'r ymgynghoriad

Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

Mae’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg wedi cwblhau ei waith craffu ar egwyddorion cyffredinol Bil Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru) ('y Bil').

 

Diben y Bil oedd diddymu'r amddiffyniad y cosb resymol o dan y gyfraith gyffredin, fel na fydd yr amddiffyniad i ymosod ar blentyn neu ei guro bellach ar gael yng Nghymru i rieni nac i’r rheini sy'n gweithredu in loco parentis.

 

Roedd yr amddiffyniad yn berthnasol i gyfraith trosedd a chyfraith sifil. O dan gyfraith trosedd, mae'n berthnasol o ran troseddau ymosod a churo yn y gyfraith gyffredin; ac o dan y gyfraith sifil, mae'n berthnasol o ran camwedd tresmasu yn erbyn y person.

 

Bwriad y Bil oedd helpu i amddiffyn hawliau plant gan wahardd defnyddio cosb gorfforol, drwy ddileu'r amddiffyniad hwn.

 

Bwriad effaith y Bil, ynghyd ag ymgyrch i godi ymwybyddiaeth a chefnogi rhieni, oedd lleihau ymhellach ar yr arfer o gosbi plant yn gorfforol yng Nghymru ac ar y graddau y caiff yr arfer ei oddef.

 

Y cylch gorchwyl

Roedd y cylch gorchwyl yn cynnwys ystyried

  • egwyddorion cyffredinol y Bil Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru) ac a oes angen deddfwriaeth er mwyn cyflawni'r amcanion polisi a nodwyd yn y Bil;
  • unrhyw rwystrau posibl rhag rhoi'r darpariaethau hyn ar waith ac a yw'r Bil yn eu hystyried;
  • a oes unrhyw ganlyniadau anfwriadol yn deillio o'r Bil;
  • goblygiadau ariannol y Bil (fel y nodir yn Rhan 2 o’r Memorandwm Esboniadol);
  • priodoldeb y pŵer yn y Bil i Weinidogion Cymru wneud is-ddeddfwriaeth (fel y nodir yn Rhan 1: Pennod 5 o’r Memorandwm Esboniadol).

 

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Email: SeneddPPIA@Senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565