Ymgynghoriad
Gwaith dilynol ar reoli Ardaloedd Morol Gwarchodedig yng Nghymru
- Mae’r ymgynghoriad hwn wedi dod i ben. Cynhaliwyd yr ymgynghoriad rhwng Dydd Gwener, 8 Mawrth 2019 a Dydd Gwener, 19 Ebrill 2019
- Gwybodaeth gefndir i'r ymgynghoriad
- Gweld yr holl ymgynghoriadau presennol
Ymateb i'r ymgynghoriad
Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad
- MPA01 Cyfoeth Naturiol Cymru (Saesneg yn unig) PDF 412 KB Gweld fel HTML (4) 288 KB
- MPA02 Y Gymdeithas Cadwraeth Forol (Saesneg yn unig) PDF 337 KB
- MPA03 Unigolyn (Saesneg yn unig) PDF 2 MB
- MPA04 Sir Benfro Forol Ardal Cadwraeth Arbennig Grŵp Awdurdodau Perthnasol (Saesneg yn unig) PDF 957 KB
- MPA05 Cyswllt Amgylchedd Cymru (Saesneg yn unig) PDF 1 MB
- MPA06 Dŵr Cymru PDF 280 KB Gweld fel HTML (9) 11 KB
- MPA07 Awdurdo Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri PDF 287 KB Gweld fel HTML (10) 44 KB
- MPA08 Prifysgol Aberystwyth (Saesneg yn unig) PDF 111 KB Gweld fel HTML (11) 25 KB
- MPA09 Porthladd Aberdaugleddau (Saesneg yn unig) PDF 73 KB Gweld fel HTML (12) 14 KB
- MPA10 Blue Marine Foundation (Saesneg yn unig) PDF 250 KB Gweld fel HTML (13) 30 KB
- MPA11 Cyswllt Amgylchedd Cymru – gwybodaeth ychwanegol (Saesneg yn unig) PDF 415 KB
Consultation findings
- Adroddiad Y Pwyllgor ar gynnydd Llywodraeth Cymru o ran rheoli Ardaloedd Morol Gwarchodedig - 14 Tachwedd 2019
- Ymateb Llywodraeth Cymru i Adroddiad y Pwyllgor - 8 Ionawr 2020
- Gohebiaeth gan yr Ysgrifennydd Parhaol, Llywodraeth Cymru i'r Cadeirydd - 5 Mawrth 2020 PDF 472 KB
Diben yr ymgynghoriad
Ym mis Awst, cyhoeddodd y Pwyllgor
Newid Hinsawdd Amgylchedd a Materion Gwledig ei adroddiad, Y Llanw'n Troi? Adroddiad yr
ymchwiliad i ddull Llywodraeth Cymru o Reoli Ardaloedd Morol Gwarchodedig. Gwnaeth
yr adroddiad nifer o argymhellion ynghylch yr angen i gynyddu adnoddau ar gyfer
rheoli Ardaloedd Morol Gwarchodedig; sefydlu partneriaeth gwyddoniaeth morol;
cynyddu ymwybyddiaeth o rôl Ardaloedd Morol Gwarchodedig; a chreu strategaeth
gorfodi yn seiliedig ar risg.
Ym mis Medi 2018, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Fframwaith Rheoli Rhwydwaith Ardaloedd Morol Gwarchodedig
Cymru 2018-2023 a Chynllun Gweithredu Rheoli Rhwydwaith Ardaloedd Morol
Gwarchodedig Cymru 2018-2019.
Roedd y Pwyllgor yn awyddus i asesu'r cynnydd a wnaed gan
Lywodraeth Cymru wrth fwrw ymlaen â'r argymhellion yn ei adroddiad, ac wrth
gyflwyno Cynllun Gweithredu Rheoli Rhwydwaith Ardaloedd Morol Gwarchodedig
2018-19.
Gofynnodd y Pwyllgor am dystiolaeth ysgrifenedig i helpu i lywio'r gwaith hwn o
fewn y cylch gorchwyl canlynol:
- Pa gynnydd a wnaed gan Lywodraeth Cymru yn sgîl yr argymhellion a
wnaed yn adroddiad y Pwyllgor?;
- A yw’r gwaith o reoli moroedd Cymru wedi cael digon o adnoddau a
chyfeiriad strategol?; a
- Sut y mae cyflwr ardaloedd morol gwarchodedig Cymru wedi newid?
Y llynedd cyhoeddwyd dull Llywodraeth Cymru o ran Rheoli’r Rhwydwaith Ardaloedd
Morol Gwarchodedig. Roedd hwn yn cynnwys Fframwaith 2018-2023 a Chynllun
Gweithredu 2018-2019. A yw’r rhain yn:
- Mynd i’r afael â phrif faterion rheolaeth effeithiol o ardaloedd morol
gwarchodedig aml-ddefnydd?;
- Cefnogi’r dull o reoli ardaloedd morol gwarchodedig yng Nghymru er
mwyn diogelu bioamrywiaeth morol Cymru?;
- Ystyried gwersi a ddysgwyd o weithgarwch rheoli ardaloedd morol
gwarchodedig presennol yng Nghymru (gan gynnwys dynodi, gweithredu a
gorfodi)?; ac yn
- Ystyried goblygiadau penderfyniad y DU i ymadael â’r Undeb Ewropeaidd?
A oes gennych unrhyw sylwadau neu faterion eraill yr
hoffech eu nodi, nad ydynt wedi’u cynnwys yn y cwestiynau penodol?
Cyflwyno Tystiolaeth Ysgrifenedig
Mae gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ddwy iaith
swyddogol, sef Cymraeg a Saesneg.
Yn unol â Chynllun
Ieithoedd Swyddogol y Senedd, mae'r Pwyllgor yn gofyn i ddogfennau neu
ymatebion ysgrifenedig i ymgynghoriadau y bwriedir eu cyhoeddi neu eu defnyddio
yn nhrafodion y Senedd gael eu cyflwyno yn ddwyieithog. Pan na chaiff dogfennau
neu ymatebion ysgrifenedig eu cyflwyno yn ddwyieithog, byddwn yn cyhoeddi yn yr
iaith a gyflwynwyd, gan ddweud eu bod wedi dod i law yn yr iaith honno'n unig.
Rydym yn disgwyl i sefydliadau eraill weithredu eu
safonau neu eu cynlluniau eu hunain a chydymffurfio â'u rhwymedigaethau
statudol.
Gweler y canllawiau
ar gyfer y sawl sy’n cyflwyno tystiolaeth i bwyllgor.
Gwahoddiad i gyfrannu at yr ymchwiliad
Os hoffech gyflwyno tystiolaeth, anfonwch gopi electronig
ohono at: SeneddNHAMG@Senedd.cymru
Manylion cyswllt
Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:
Y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN
Email: SeneddNHAMG@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565