Ymgynghoriad

Gwaith dilynol ar reoli Ardaloedd Morol Gwarchodedig yng Nghymru

Ymateb i'r ymgynghoriad

Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad

Consultation findings

Diben yr ymgynghoriad


Ym mis Awst, cyhoeddodd y Pwyllgor Newid Hinsawdd Amgylchedd a Materion Gwledig ei adroddiad,
Y Llanw'n Troi? Adroddiad yr ymchwiliad i ddull Llywodraeth Cymru o Reoli Ardaloedd Morol Gwarchodedig. Gwnaeth yr adroddiad nifer o argymhellion ynghylch yr angen i gynyddu adnoddau ar gyfer rheoli Ardaloedd Morol Gwarchodedig; sefydlu partneriaeth gwyddoniaeth morol; cynyddu ymwybyddiaeth o rôl Ardaloedd Morol Gwarchodedig; a chreu strategaeth gorfodi yn seiliedig ar risg.

Ym mis Medi 2018, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Fframwaith Rheoli Rhwydwaith Ardaloedd Morol Gwarchodedig Cymru 2018-2023 a Chynllun Gweithredu Rheoli Rhwydwaith Ardaloedd Morol Gwarchodedig Cymru 2018-2019.

Roedd y Pwyllgor yn awyddus i asesu'r cynnydd a wnaed gan Lywodraeth Cymru wrth fwrw ymlaen â'r argymhellion yn ei adroddiad, ac wrth gyflwyno Cynllun Gweithredu Rheoli Rhwydwaith Ardaloedd Morol Gwarchodedig 2018-19.


Gofynnodd y Pwyllgor am dystiolaeth ysgrifenedig i helpu i lywio'r gwaith hwn o fewn y cylch gorchwyl canlynol:

 

  • Pa gynnydd a wnaed gan Lywodraeth Cymru yn sgîl yr argymhellion a wnaed yn adroddiad y Pwyllgor?;
  • A yw’r gwaith o reoli moroedd Cymru wedi cael digon o adnoddau a chyfeiriad strategol?; a
  • Sut y mae cyflwr ardaloedd morol gwarchodedig Cymru wedi newid?


Y llynedd cyhoeddwyd dull Llywodraeth Cymru o ran Rheoli’r Rhwydwaith Ardaloedd Morol Gwarchodedig. Roedd hwn yn cynnwys Fframwaith 2018-2023 a Chynllun Gweithredu 2018-2019. A yw’r rhain yn:

  • Mynd i’r afael â phrif faterion rheolaeth effeithiol o ardaloedd morol gwarchodedig aml-ddefnydd?;
  • Cefnogi’r dull o reoli ardaloedd morol gwarchodedig yng Nghymru er mwyn diogelu bioamrywiaeth morol Cymru?;
  • Ystyried gwersi a ddysgwyd o weithgarwch rheoli ardaloedd morol gwarchodedig presennol yng Nghymru (gan gynnwys dynodi, gweithredu a gorfodi)?; ac yn
  • Ystyried goblygiadau penderfyniad y DU i ymadael â’r Undeb Ewropeaidd?

 

A oes gennych unrhyw sylwadau neu faterion eraill yr hoffech eu nodi, nad ydynt wedi’u cynnwys yn y cwestiynau penodol?



Cyflwyno Tystiolaeth Ysgrifenedig

Mae gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ddwy iaith swyddogol, sef Cymraeg a Saesneg.

Yn unol â Chynllun Ieithoedd Swyddogol y Senedd, mae'r Pwyllgor yn gofyn i ddogfennau neu ymatebion ysgrifenedig i ymgynghoriadau y bwriedir eu cyhoeddi neu eu defnyddio yn nhrafodion y Senedd gael eu cyflwyno yn ddwyieithog. Pan na chaiff dogfennau neu ymatebion ysgrifenedig eu cyflwyno yn ddwyieithog, byddwn yn cyhoeddi yn yr iaith a gyflwynwyd, gan ddweud eu bod wedi dod i law yn yr iaith honno'n unig.

Rydym yn disgwyl i sefydliadau eraill weithredu eu safonau neu eu cynlluniau eu hunain a chydymffurfio â'u rhwymedigaethau statudol.

Gweler y canllawiau ar gyfer y sawl sy’n cyflwyno tystiolaeth i bwyllgor.



Gwahoddiad i gyfrannu at yr ymchwiliad

Os hoffech gyflwyno tystiolaeth, anfonwch gopi electronig ohono at: SeneddNHAMG@Senedd.cymru

 



Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Email: SeneddNHAMG@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565