Ymgynghoriad

Trafodaeth o’r cynigion i ddiwygio Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013

Ymateb i'r ymgynghoriad

Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

Cyflwynwyd Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013 ym mis Gorffennaf 2012 a daeth yn gyfraith yng Nghymru ar 29 Ebrill 2013. Roedd y Ddeddf yn amcanu i gryfhau a gwella atebolrwydd a threfniadau llywodraethu Archwilydd Cyffredinol Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru gan sicrhau annibyniaeth a gwrthrychedd yr Archwilydd Cyffredinol ar yr un pryd.

Gwnaeth Pwyllgor Cyllid Cynulliad Cenedlaethol Cymru waith craffu ar ôl deddfu ar y Ddeddf a ganolbwyntiodd ar ddau faes:

1.           Ystyried materion a godwyd gan Archwilydd Cyffredinol Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru mewn cysylltiad â Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013, gan gynnwys:

  • Codi ffioedd
  • Trefniadau cworwm Bwrdd Swyddfa Archwilio Cymru
  • Trefniadau adrodd Swyddfa Archwilio Cymru
  • Problemau â gosod cyfrifon ac adrodd arnynt

2.           Ystyried i ba raddau y gallai agweddau eraill ar Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013 elwa ar gael eu hadolygu.

Datgelu gwybodaeth

Gwnewch yn saff eich bod wedi ystyried polisi’r Cynulliad o ran datgelu gwybodaeth cyn cyflwyno gwybodaeth i’r Pwyllgor.

Dogfennau ategol

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Y Pwyllgor Cyllid
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Email: SeneddCyllid@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565