Ymgynghoriad

Darparu gofal iechyd a gofal cymdeithasol ar yr ystâd carchardai i oedolion

Ymateb i'r ymgynghoriad

Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

Er nad yw carchardai wedi’u datganoli, mae’r system gofal iechyd wedi’i datganoli, ac mae gan Lywodraeth Cymru gyfres glir o gyfrifoldebau i ddarparu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol i garcharorion a gaiff eu cadw yng Nghymru.

Bydd ymchwiliad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon yn canolbwyntio ar brofiadau carcharorion o Gymru o wasanaethau iechyd a gwasanaethau gofal cymdeithasol ar yr ystâd carchardai i oedolion. Bydd yn ystyried:

  • Effeithiolrwydd y trefniadau presennol ar gyfer cynllunio gwasanaethau iechyd i garcharorion yng Nghymru, a dulliau rheoli gwasanaethau iechyd a gwasanaethau gofal carchardai, gan gynnwys a oes digon o oruchwyliaeth. 
  • Beth yw’r galw am wasanaethau iechyd a gwasanaethau gofal cymdeithasol yng ngharchardai Cymru, ac a yw gwasanaethau gofal iechyd yn diwallu anghenion carcharorion ac yn mynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd pobl a gaiff eu cadw yng ngharchardai Cymru. 
  • Beth yw’r pwysau ar ddarpariaeth iechyd a gofal cymdeithasol yng ngharchardai Cymru ar hyn o bryd, gan gynnwys gwasanaethau a phroblemau o ran y gweithlu, fel iechyd meddwl, camddefnyddio sylweddau, anableddau dysgu, gofal sylfaenol y tu allan i oriau gwaith, a materion sy’n ymwneud â gofal eilaidd mewn ysbyty, ar gyfer carcharorion.
  • Pa mor dda y mae carchardai yng Nghymru yn diwallu anghenion iechyd a gofal cymdeithasol cymhleth poblogaeth gynyddol o bobl hŷn yn y carchar, a pha welliannau posibl y gellid eu gwneud ir gwasanaethau presennol. 
  • A oes digon o adnoddau ar gael i ariannu a darparu gofal ar ystâd carchardai Cymru, yn benodol, a oes angen adolygu’r gyllideb sylfaenol ar gyfer gofal iechyd carcharorion ar draws y Byrddau Iechyd Lleol. 
  • Beth yw’r rhwystrau i wella’r system gofal iechyd yn y carchardai ar hyn o bryd a chanlyniadau iechyd poblogaeth y carchardai yng Nghymru. 

Er y bydd yn canolbwyntio ar yr ystâd carchardai i oedolion yng Nghymru, bydd y Pwyllgor hefyd yn ystyried tystiolaeth am y boblogaeth o fenywod mewn carchardai, a’r problemau sy’n wynebu’r carcharorion o Gymru a gaiff eu cadw ar yr ystâd ddiogel yn Lloegr. Efallai yr edrychir yn fwy manwl hefyd ar faterion penodol yn ymwneud â phlant a phobl ifanc.

Y dyddiad cau ar gyfer cael ymatebion oedd 14 Mai 2019.

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Email: SeneddIechyd@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565