Ymgynghoriad

Minnau hefyd!

Ymateb i'r ymgynghoriad

Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

Mae’r Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu yn ystyried sut y gall cyrff sy’n cael eu hariannu’n gyhoeddus ddefnyddio diwylliant i fynd i’r afael â thlodi ac allgau cymdeithasol yng Nghymru.

Dywedwch wrthym beth ydych chi’n ei feddwl mewn ymateb i’r cwestiynau canlynol.  Mae croeso i chi ymdrin ag unrhyw faterion eraill yn eich ymateb:

  • Pa mor effeithiol y mae Llywodraeth Cymru wedi bod o ran gwella cyfranogiad a mynediad at ddiwylliant i bobl mewn tlodi?
  • Pa mor effeithiol y mae ymdrechion cyrff a noddir gan Lywodraeth Cymru (sef Cyngor y Celfyddydau, yr Amgueddfa Genedlaethol, y Llyfrgell Genedlaethol a Chomisiwn Brenhinol Henebion Cymru) a llywodraeth leol wedi bod i ddefnyddio diwylliant i drechu tlodi;
  • Pa effaith mae rhaglen Cyfuno Llywodraeth Cymru wedi’i chael ar ddefnyddio diwylliant i fynd i’r afael â thlodi?
  • Pa mor effeithiol mae rhaglenni arloeswyr Cyfuno wedi bod wrth ysgogi cydweithredu lleol?

Anfonwch eich sylwadau atom drwy e-bost at SeneddDGCh@cynulliad.cymru. Gofynnwn i’r holl gyfraniadau ein cyrraedd ni cyn 14 Rhagfyr 2018. Ar ôl y dyddiad hwn, bydd y Pwyllgor yn ystyried yr ymatebion ac yn penderfynu sut i symud yr ymchwiliad ymlaen.

Y cefndir

Mae gan y Pwyllgor ddiddordeb mewn sut y gall y cyrff a ariennir yn gyhoeddus ddefnyddio diwylliant i fynd i’r afael ag effeithiau tlodi ac allgáu cymdeithasol. Pan fyddwn yn cyfeirio at gyrff a ariennir yn gyhoeddus, rydym yn cynnwys awdurdodau lleol, safleoedd treftadaeth, theatrau, ysgolion, amgueddfeydd, archifau a llyfrgelloedd.

Un o’r ffyrdd y mae Llywodraeth Cymru wedi ymdrin â’r mater hwn yw drwy raglen o weithgareddau lle mae sefydliadau cenedlaethol yn cydweithio ag awdurdodau lleol ac arweinwyr cymunedau, ymhlith blaenoriaethau eraill, i gyflwyno ffyrdd newydd o leihau rhwystrau a mynediad at y sefydliadau diwylliannol cenedlaethol, ac i greu fframweithiau newydd ar gyfer ymgysylltu a chyflawni’n lleol. Mae Llywodraeth Cymru wedi galw’r rhaglen hon yn Cyfuno.

Cynlluniwyd y rhaglen i gefnogi clystyrau Cymunedau yn Gyntaf wrth gysylltu â sefydliadau diwylliannol. Cydgysylltwyd y rhaglen gan Is-adran Amgueddfeydd, Archifau a Llyfrgelloedd Llywodraeth Cymru.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi defnyddio ei nawdd i gyrff cenedlaethol i’w cyfeirio i ddefnyddio eu harian gan y llywodraeth i leihau tlodi a mynd i’r afael ag allgau cymdeithasol. Er enghraifft, mae llythyrau cylch gwaith presennol Cyngor y Celfyddydau, y Llyfrgell Genedlaethol, yr Amgueddfa Genedlaethol a Chomisiwn Brenhinol Henebion Cymru yn cyfeirio at y sefydliadau hyn yn parhau i gyfrannu at y rhaglen Cyfuno.

Cyflwyno Tystiolaeth Ysgrifenedig

Mae gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ddwy iaith swyddogol, sef Cymraeg a Saesneg.

Yn unol â Chynllun Ieithoedd Swyddogol y Cynulliad, mae'r Pwyllgor yn gofyn i ddogfennau neu ymatebion ysgrifenedig i ymgynghoriadau y bwriedir eu cyhoeddi neu eu defnyddio yn nhrafodion y Cynulliad Cenedlaethol gael eu cyflwyno yn ddwyieithog. Pan na chaiff dogfennau neu ymatebion ysgrifenedig eu cyflwyno yn ddwyieithog, byddwn yn cyhoeddi yn yr iaith a gyflwynwyd, gan ddweud eu bod wedi dod i law yn yr iaith honno'n unig.

Rydym yn disgwyl i sefydliadau eraill weithredu eu safonau neu eu cynlluniau eu hunain a chydymffurfio â'u rhwymedigaethau statudol.

Gweler y canllawiau ar gyfer y sawl sy’n cyflwyno tystiolaeth I bwyllgor.

Datgelu gwybodaeth

Gwnewch yn saff eich bod wedi ystyried polisi’r Cynulliad o ran datgelu gwybodaeth cyn cyflwyno gwybodaeth i’r Pwyllgor.

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Email: SeneddDGCh@@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565