Ymgynghoriad
Ymchwiliad i ymchwil ac arloesedd yng Nghymru
- Mae’r ymgynghoriad hwn wedi dod i ben. Cynhaliwyd yr ymgynghoriad rhwng Dydd Mercher, 22 Awst 2018 a Dydd Gwener, 12 Hydref 2018
- Gwybodaeth gefndir i'r ymgynghoriad
- Gweld yr holl ymgynghoriadau presennol
Ymateb i'r ymgynghoriad
Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad
- 01. David Notley, Impact Innovation (Saesneg yn unig)
PDF 32 KB Gweld fel HTML (1) 12 KB
- 02. Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (Saesneg yn unig)
PDF 172 KB Gweld fel HTML (2) 39 KB
- 03. Prifysgol Metropolitan Caerdydd (Saesneg yn unig)
PDF 359 KB Gweld fel HTML (3) 55 KB
- 04. Prifysgol De Cymru (Saesneg yn unig)
PDF 98 KB Gweld fel HTML (4) 31 KB
- 05. Alzheimer's Society Cymru (Saesneg yn unig)
PDF 850 KB
- 06. Airbus in the UK (Saesneg yn unig)
PDF 1 MB
- 07. Tenovus Cancer Care (Saesneg yn unig)
PDF 744 KB
- 08. Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru
PDF 724 KB
- 09. Colegau Cymru (Saesneg yn unig)
PDF 1 MB
- 10. Cancer Research UK (Saesneg yn unig)
PDF 408 KB Gweld fel HTML (10) 30 KB
- 11. Prifysgol Bangor (Saesneg yn unig)
PDF 763 KB
- 12. fsb (Saesneg yn unig)
PDF 1 MB
- 13. Prifysgol Abertawe (Saesneg yn unig)
PDF 162 KB Gweld fel HTML (13) 54 KB
- 14. Wesley Clover Corporation (Saesneg yn unig)
PDF 350 KB Gweld fel HTML (14) 59 KB
- 15. Priysgolion Cymru (Saesneg yn unig)
PDF 805 KB
- 16. Prifysgol Caerdydd
PDF 507 KB Gweld fel HTML (16) 103 KB
- 17. Cyngor Cynghorol Cymru ar Arloesi (Saesneg yn unig)
PDF 1 MB
- 18. Cymdeithas Ddysgedig Cymru (Saesneg yn unig)
PDF 736 KB
- 19. Prifysgol Aberystwyth (Saesneg yn unig)
PDF 655 KB
Diben yr ymgynghoriad
Mae Pwyllgor yr Economi,
Seilwaith a Sgiliau am gael eich barn am:
·
Mae Llywodraeth Cymru yn dweud bod angen cynnydd
sylweddol yn y gwaith ymchwil a wneir sydd â'r nod o helpu i ddatrys yr heriau
penodol a wynebir gan Gymru (ymchwil a ysgogir gan her). Mae hefyd yn dweud bod
angen cydbwyso'r math hwn o waith ymchwil â'r math mwy traddodiadol o waith
ymchwil hirdymor a wneir gan brifysgolion sy'n gwthio ffiniau gwybodaeth.
o I ba raddau ydych chi'n cytuno â'r farn hon a sut y gall Llywodraeth Cymru
sicrhau na fydd cynnydd mewn un math o waith ymchwil yn digwydd ar draul math
arall o waith ymchwil?
·
Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud ei bod am ddod â'r
holl gyllid ymchwil ynghyd ac y dyali'r cyllid hwn fod ar gael wedyn i fusnesau
bach a chanolig, busnesau mawr preifat a sefydliadau eraill, yn ogystal â
phrifysgolion a cholegau.
o I ba raddau y dylai busnesau a sefydliadau eraill allu cael cyllid ymchwil
gan y Llywodraeth a allai fod wedi mynd i brifysgolion a cholegau fel arall?
Sut y gellid gwneud hyn heb danariannu rhai sefydliadau – a allai hyn arwain at
ganlyniadau anfwriadol?
·
Roedd adolygiad diweddar o gyllid ymchwil yn dadlau
bod yna risg gref y gallai buddiannau prifysgolion o ran ymchwil ac arloesi yn
y brifysgol fwrw buddiannau busnesau preifat o ran ymchwil ac arloesi i'r
cysgod. Ond, nid oedd yr adolygiad yn cynnig unrhyw ffordd o atal hyn rhag
digwydd.
o Beth sydd angen ei wneud i sicrhau na chaiff busnesau a'u buddiannau eu
bwrw i'r cysgod gan brifysgolion o ran y cyllid a’r gwaith sy’n gysylltiedig ag
ymchwil ac arloesi?
·
Yn ystod y flwyddyn academaidd 2016/17, cofnododd
prifysgolion Cymru bod 241 o fusnesau newydd wedi'u sefydlu gan raddedigion
gyda throsiant amcangyfrifedig o £56 miliwn, sef bron dwbl trosiant y busnesau
newydd a sefydlwyd gan staff prifysgolion yn yr un flwyddyn.
o Beth sydd ar waith ar hyn o bryd gan brifysgolion a Llywodraeth Cymru i
helpu a chefnogi myfyrwyr a graddedigion mentrus i droi eu syniadau yn fusnesau
llwyddiannus?
o A yw'r gefnogaeth hon yn systematig a chyson ledled Cymru ac a oes mwy y
gallai Llywodraeth Cymru ac eraill ei wneud?
·
Gwnaed argymhellion yn yr adolygiad diweddar o
waith ymchwil y dylid helpu i annog busnesau a phrifysgolion i gydweithio'n
agos â'i gilydd ar ymchwil ac arloesi er mwyn mynd â'u gwaith ar y cyd gam
ymhellach.
o Beth y gall busnesau a phrifysgolion gynnig i'w gilydd pan fyddant yn
cydweithio ar brosiectau ymchwil ac arloesi?
o A ddylai Llywodraeth Cymru ac eraill fod yn gwneud unrhyw beth yn wahanol i
ddod â busnesau llai ynghyd â phrifysgolion er mwyn cydweithio ar brosiectau
ymchwil ac arloesi? Beth sy'n gweithio'n dda a beth sydd ddim yn gweithio
cystal?
Beth y dylai Llywodraeth Cymru ac eraill fod yn ei
wneud i helpu busnesau i ddefnyddio'r wybodaeth a gesglir drwy waith ymchwil
a'i droi'n ddeunydd y gellir ei farchnata neu'n wasanaethau gwell?
Cyflwyno Tystiolaeth Ysgrifenedig
Mae gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ddwy iaith
swyddogol, sef Cymraeg a Saesneg.
Yn unol â Chynllun
Ieithoedd Swyddogol y Cynulliad, mae'r Pwyllgor yn gofyn i ddogfennau
neu ymatebion ysgrifenedig i ymgynghoriadau y bwriedir eu cyhoeddi neu eu
defnyddio yn nhrafodion y Cynulliad Cenedlaethol gael eu cyflwyno yn
ddwyieithog. Pan na chaiff dogfennau neu ymatebion ysgrifenedig eu cyflwyno yn
ddwyieithog, byddwn yn cyhoeddi yn yr iaith a gyflwynwyd, gan ddweud eu bod
wedi dod i law yn yr iaith honno'n unig.
Rydym yn disgwyl i sefydliadau eraill weithredu eu
safonau neu eu cynlluniau eu hunain a chydymffurfio â'u rhwymedigaethau
statudol.
Gweler y canllawiau
ar gyfer y sawl sy’n cyflwyno tystiolaeth i bwyllgor.
Datgelu
gwybodaeth
Gwnewch yn saff eich bod wedi ystyried polisi’r
Cynulliad o ran datgelu gwybodaeth cyn cyflwyno gwybodaeth i’r
Pwyllgor.
Manylion cyswllt
Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:
Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN
Email: SeneddESS@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565