Ymgynghoriad

Blaenoriaethau ar gyfer y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu

Diben yr ymgynghoriad

 

Mae’r Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu yn gofyn am eich help i benderfynu pa ymchwiliad y bydd yn ei gynnal nesaf.

Mae safbwyntiau a barn cyhoedd Cymru wrth wraidd gwaith y Pwyllgor. Gan adeiladu ar lwyddiant y bleidlais gyhoeddus gyntaf yn 2016, yr haf hwn, unwaith eto, bydd y Pwyllgor yn gofyn i’r cyhoedd helpu i benderfynu pa ymchwiliad y bydd yn ei gynnal yn y dyfodol.

Yn ogystal â syniadau a gyflwynwyd gennych chi, ac ymchwiliadau y mae’r Pwyllgor yn gobeithio eu trafod yn y dyfodol, mae’r Pwyllgor yn gofyn i bobl Cymru bleidleisio mewn arolwg byr i nodi pa un mewn rhestr o feysydd posibl sy’n flaenoriaeth ar gyfer ymchwiliad pwyllgor.

Gellir pleidleisio yn yr arolwg tan 8 Hydref 2018.

 

Datgelu gwybodaeth

Gwnewch yn saff eich bod wedi ystyried polisi’r Cynulliad o ran datgelu gwybodaeth cyn cyflwyno gwybodaeth i’r Pwyllgor.

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Email: SeneddDGCh@@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565