Ymgynghoriad

Cynigion Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2019-20

Ymateb i'r ymgynghoriad

Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

Galwodd pwyllgorau Cynulliad Cenedlaethol Cymru am wybodaeth i gynorthwyo gyda’r gwaith o graffu ar Gynigion Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2019-20. Roedd ganddynt ddiddordeb mewn ymchwilio i’r disgwyliadau o ran cyllideb 2019-20, gan gynnwys parodrwydd ariannol ar gyfer blwyddyn 2019-20 ac effaith cyllideb 2018-19.

Roedd Cyllideb Derfynol 2018-19 Llywodraeth Cymru, a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2017, yn darparu ffigurau dangosol ar gyfer 2019-20.

Mae’r Pwyllgor Cyllid yn edrych ar gyllideb Llywodraeth Cymru o safbwynt strategol a chyffredinol. Rydym hefyd yn cydweithio â phwyllgorau eraill y Cynulliad i sicrhau y caiff cynigion ar gyfer adrannau neu bortffolios cabinet penodol eu hystyried yn fanwl. Bydd y pwyllgorau yn cynnal eu sesiynau eu hunain i ganolbwyntio ar dystiolaeth er mwyn edrych yn fanwl ar yr agweddau ar y gyllideb sydd o fewn eu cylchoedd gwaith hwy. 

Gofynnodd y Pwyllgor am farn ar y cwestiynau penodol a gynhwysir yn y llythyr ymgynghori (PDF, KB165)  ac unrhyw farn gyffredinol mewn perthynas â'r gyllideb ddrafft.

Datgelu gwybodaeth

Gwnewch yn saff eich bod wedi ystyried polisi’r Cynulliad o ran datgelu gwybodaeth cyn cyflwyno gwybodaeth i’r Pwyllgor.

Dogfennau ategol

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Y Pwyllgor Cyllid
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Email: SeneddCyllid@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565