Ymgynghoriad

Adolygiad o gymorth staffio i’r Aelodau: Hyblygrwydd y lwfansau yn ymwneud â Lwfans Cymorth i Bleidiau Gwleidyddol

Diben yr ymgynghoriad

Yn ei gyfarfod ar 24 Mai, trafododd y Bwrdd Taliadau yr ymatebion i’r ymgynghoriad a ddaeth i law mewn cysylltiad â’i gynigion i gynyddu defnydd hyblyg y lwfansau presennol o fewn y Penderfyniad ar gyfer lwfansau Aelodau unigol. Trafododd y Bwrdd hefyd sut y gallai gynyddu hyblygrwydd y lwfans mewn cysylltiad â’r Lwfans Cymorth i Bleidiau Gwleidyddol er mwyn cynnig rhywfaint o gydraddoldeb yn y ddarpariaeth i Aelodau a Phleidiau Gwleidyddol. Penderfynodd y Bwrdd ymgynghori ar y cynigion canlynol:

  • cyllidebu Lwfans Cymorth i Bleidiau Gwleidyddol ar bwyntiau cyflog gwirioneddol;
  • cyhoeddi’r gwariant y mae pob Plaid Wleidyddol yn ei wneud ar ei Lwfans Cymorth i Bleidiau Gwleidyddol;
  • cael gwared ar y ddarpariaeth yn y Penderfyniad sy’n caniatáu i drosglwyddo arian o Lwfans Staffio Aelodau i Lwfans Cymorth i Bleidiau Gwleidyddol.

Cylch gorchwyl

Bydd y Bwrdd yn adolygu tystiolaeth bresennol a thystiolaeth newydd sy'n ymwneud â'r lwfans staffio a ddarperir i Aelodau, i sicrhau bod y gefnogaeth ariannol sydd ar gael yn cefnogi pwrpas strategol y Cynulliad ac yn hwyluso gwaith yr Aelodau ynghyd â sicrhau bod y system cefnogaeth ariannol i Aelodau yn gadarn, clir, tryloyw, cynaliadwy ac yn cynrychioli gwerth am arian i'r trethdalwr.

Bydd yr adolygiad yn ystyried:

  • digonolrwydd lefel y gefnogaeth a roddir i Aelodau;
  • pa mor hyblyg yw'r system gymorth gyfredol ar gyfer Aelodau, ac i ba raddau y'i gweithredir; ac
  • addasrwydd telerau ac amodau cyfredol y Staff Cymorth.

Darparu tystiolaeth ysgrifenedig

Mae gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ddwy iaith swyddogol, sef Cymraeg a Saesneg.

Yn unol â Chynllun Ieithoedd Swyddogol y Cynulliad, mae'r Bwrdd yn gofyn i ddogfennau neu ymatebion ysgrifenedig i ymgynghoriadau y bwriedir eu cyhoeddi neu eu defnyddio gan y Bwrdd gael eu cyflwyno yn ddwyieithog. Pan na chaiff dogfennau neu ymatebion ysgrifenedig eu cyflwyno yn ddwyieithog, byddant yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith a gyflwynwyd, a byddwn yn nodi eu bod wedi dod i law yn yr iaith honno'n unig.

Mae'r Bwrdd yn disgwyl i sefydliadau eraill weithredu eu safonau neu eu cynlluniau eu hunain a chydymffurfio â'u rhwymedigaethau statudol.

Datgelu gwybodaeth

Gwnewch yn saff eich bod wedi ystyried sut y bydd y Bwrdd yn defnyddio eich gwybodaeth cyn cyflwyno gwybodaeth i'r Bwrdd.  Mae'r wybodaeth hon wedi'i nodi yn yr atodiad i'r llythyr ymgynghori.

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno gwybodaeth yw dydd Gwener 20 Gorffennaf 2018. Mae'n bosibl na fydd modd inni ystyried unrhyw ymateb sy'n dod i law ar ôl y dyddiad hwn.

Dogfennau ategol

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Y Bwrdd Taliadau
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Email: Taliadau@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565