Ymgynghoriad

Ymchwiliad i amrywiaeth ym maes llywodraeth leol

Ymateb i'r ymgynghoriad

Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

Cynhaliodd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ymchwiliad i amrywiaeth ym maes llywodraeth leol. Daeth yr ymgynghoriad i ben ddydd Llun 10 Medi 2018.

 

Y cylch gorchwyl oedd:

 

  • Deall pwysigrwydd amrywiaeth ymhlith cynghorwyr lleol, gan gynnwys yr effaith ar ymgysylltu â'r cyhoedd, trafod a gwneud penderfyniadau.
  • Deall y prif rwystrau i ddenu cronfa fwy amrywiol o ymgeiswyr ar gyfer etholiadau llywodraeth leol.
  • Trafod meysydd arloesedd ac arfer da a all helpu i gynyddu amrywiaeth ym maes llywodraeth leol.
  • Trafod effaith bosibl y cynigion ym Mhapur Gwyrdd Llywodraeth Cymru, Cryfhau Llywodraeth Leol i gynyddu amrywiaeth yn siambrau'r Cyngor.

Cyflwyno Tystiolaeth Ysgrifenedig

Mae gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ddwy iaith swyddogol, sef Cymraeg a Saesneg.

Yn unol â Chynllun Ieithoedd Swyddogol y Cynulliad, mae'r Pwyllgor yn gofyn i ddogfennau neu ymatebion ysgrifenedig i ymgynghoriadau y bwriedir eu cyhoeddi neu eu defnyddio yn nhrafodion y Cynulliad Cenedlaethol gael eu cyflwyno yn ddwyieithog. Pan na chaiff dogfennau neu ymatebion ysgrifenedig eu cyflwyno yn ddwyieithog, byddwn yn cyhoeddi yn yr iaith a gyflwynwyd, gan ddweud eu bod wedi dod i law yn yr iaith honno'n unig.

Rydym yn disgwyl i sefydliadau eraill weithredu eu safonau neu eu cynlluniau eu hunain a chydymffurfio â'u rhwymedigaethau statudol.

Gweler y canllawiau ar gyfer y sawl sy’n cyflwyno tystiolaeth I bwyllgor.

Daeth yr ymgynghoriad i ben ar ddydd Llun 10 Medi 2018.

Holiadur ar-lein

Cynhaliodd y Pwyllgor ddau arolwg ar-lein hefyd. Gellir gweld dadansoddiad o’r arolwg a anfonwyd at gynghorwyr yma. Mae dadansoddiad o’r arolwg a anfonwyd at y cyhoedd wedi’i gyhoeddi hefyd.

Datgelu gwybodaeth

Gwnewch yn saff eich bod wedi ystyried polisi’r Cynulliad o ran datgelu gwybodaeth cyn cyflwyno gwybodaeth i’r Pwyllgor.

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Email: SeneddCymunedau@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565