Ymgynghoriad

Effaith Brexit ar Addysg Uwch ac Addysg Bellach

Ymateb i'r ymgynghoriad

Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

Mae Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn cynnal ymchwiliad i effaith Brexit ar Addysg Uwch ac Addysg Bellach.

 

Ystyriodd y Pwyllgor ddull Llywodraeth Cymru o baratoi ar gyfer Brexit mewn perthynas â'r sector Addysg Bellach ac Uwch yng Nghymru. Er mwyn cyfrannu at y gwaith craffu, galwodd y Pwyllgor am dystiolaeth mewn perthynas â'r tair thema eang a ganlyn: canlyniadau dysgwyr a chyflogadwyedd, cynaliadwyedd ariannol a buddsoddi, a chyllid a chydweithredu o ran ymchwil ac arloesi.

Canlyniadau dysgwyr a chyflogadwyedd

  • Edrych ar yr heriau posibl i lwyddiant dysgwyr a’u cyflogadwyedd yn y dyfodol ar ôl Brexit, a holi beth a wneir a beth fydd yn bosibl ei wneud i oresgyn yr heriau hyn.
  • Edrych ar yr effaith bosibl ar y sector yn sgîl unrhyw golled o gynllun symudedd ERASMUS+ yr UE, a deall y cyfleoedd ar gyfer cynlluniau symudedd eraill sy’n bod neu y gellid eu datblygu’n synhwyrol.

Cynaliadwyedd ariannol a chyfleoedd buddsoddi

  • Ystyried yr heriau posibl i gynaliadwyedd ariannol sefydliadau Addysg Bellach ac Addysg Uwch sy’n codi yn sgîl Brexit.
  • Ymchwilio i gysylltiad â chyllid yr UE, o ran cynlluniau buddsoddi sefydliadau Addysg Bellach ac Addysg Uwch yn y dyfodol, a beth yw’r cyfleoedd ar gyfer ffynonellau cyllid buddsoddi eraill.

Cyllid a chydweithredu o ran ymchwil ac arloesi

  • Ymchwilio i ddibyniaeth sefydliadau Addysg Bellach ac Addysg Uwch ar gyllid ymchwil ac arloesi yr UE yn y dyfodol.
  • Edrych ar beth a wneir, a beth fydd yn bosibl ei wneud, i ddiogelu cydweithrediadau a rhwydweithiau ymchwil yr Undeb Ewropeaidd ar ôl Brexit.

 

Dogfennau ategol

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Email: SeneddPPIA@Senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565